Neuadd y Dref Llanelli
Mae Neuadd y Dref, Llanelli yn adeilad rhestredig hanesyddol a adeiladwyd yn 1882 mewn arddull neo-Jacobeaidd. Mae'n dirnod yn Llanelli ac mae'n un o adeiladau pensaernïol mwyaf trawiadol Sir Gaerfyrddin. Mae'r tu mewn wedi'i addurno gan ddefnyddio lliwiau euraidd a choch moethus, sy'n pwysleisio ac yn ategu ei ysblander a'i fri. Mae'r adeilad wedi'i amgylchynu gan erddi coffa hardd.
Sylwych y gall niferoedd o westeion a ffioedd seremonïau amrywio yn ystod y Pandemig Coronafirws.
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref
Hyd at 65 o westeion
Mae gan yr ystafell fawr, urddasol hon a ddodrefnwyd yn draddodiadol yn Neuadd y Dref, ddigon o le i hyd at 65 o westeion. Mae'r ystafell yn ddewis poblogaidd yn Llanelli gan ei bod yn cynnig lleoliad cyfleus yn ogystal â chefndir arbennig y tu mewn a'r tu allan iddi ar gyfer ffotograffau.
Dydd Llun – Dydd Iau |
Dydd Gwener – Dydd Sadwrn |
Dydd Sul – Gwyliau Banc |
£365 |
£425 - £550 |
£605 |
Ystafell y Cadeirydd
Hyd at 20 o westeion
Ychwanegiad newydd ir opsiynau yn Neuadd Y Dref Llanelli, rydym yn falch i gynnig Yr Ystafell y Cadeirydd. Gofod hamddenol, anffurfiol gyda ddigon o fawredd i rhoi achlysur i’ch diwrnod arbennig.
Nifer o westeion |
Dydd Llun – Dydd Iau |
Dydd Gwener – Dydd Sadwrn |
Dydd Sul – Gwyliau Banc |
Lan i 20 |
£215 |
£275 - £550 |
£605 |
Ystafell y Gofrestrydd
Hyd at 10 o westeion
Mae Ystafell y Gofrestrydd, gyda golygfeydd dros erddi Neuadd y Dref, yn ystafell ddelfrydol ar gyfer cynulliadau llai.
Nifer o westeion |
Dydd Llun – Dydd Iau |
Dydd Gwener – Dydd Sadwrn |
Dydd Sul – Gwyliau Banc |
Hyd at 10 |
£170 |
£200 - 550 |
£605 |
Mae'r ffioedd ar gyfer Caerfyrddin a Llanelli yn cynnwys cyfarfod gyda'ch cofrestrydd cyn eich diwrnod priodas i drafod eich gofynion a sgript seremoni wedi'i phersonoli. Gellir archebu a thalu am dystysgrifau ar ol y seremoni ac maent yn costio £11 yr un. Gofyn am gopi o dystysgrif.
Seremoni statudol
Gall cyplau sy'n dymuno cynnal y seremoni briodas gyfreithlon neu bartneriaeth sifil fwyaf syml, iddynt hwy eu hunain a 2 dyst yn unig, archebu'r ystafell statudol yng Nghaerfyrddin o ddydd Llun i ddydd Iau.
Dydd Llun – Dydd Iau |
Dydd Gwener – Dydd Sadwrn |
Dydd Sul – Gwyliau Banc |
£56 |
n/a |
n/a |
Trefnu ymweliad
Gall yr holl ystafelloedd gael eu harchebu 3 blynedd o flaen llaw. Rydym yn argymell eich bod yn gweld yr ystafelloedd a byddwn wrth ein boddau yn mynd â chi o amgylch y ddau leoliad. Ffoniwch ni ar 01267 228210 i wneud apwyntiad i weld unrhyw un o'n hystafelloedd seremonïau yng Nghaerfyrddin neu Llanelli.
Nôl i'r dudalen gartref