Ni ddylai neb golli'r cyfle i ymweld â Marchnad Caerfyrddin sy'n bodoli ers 800 mlynedd a mwy. Er ei bod yn dyddio'n ôl i oes y Rhufeiniaid, mae'r farchnad wedi symud gyda'r oes yn graff ac o ganlyniad, mae wedi datblygu'n gyrchfan o bwys i'r rhai sy'n dwlu ar fwyd, gan ei bod yn cynnig rhai o'r cynhyrchion lleol, gorau yng Nghymru.
Mae'r Farchnad mewn neuadd fodern a golau lle ceir amrywiaeth o stondinau sy'n gwerthu popeth dan haul, o nwyddau celf a chrefft, gemwaith o'r oesoedd a fu a gemwaith cyfoes i gigoedd, ffrwythau a llysiau, cawsiau a chacennau a gynhyrchir yn lleol.
Ar ddydd Mercher a dydd Sadwrn, mae'r farchnad awyr agored boblogaidd yn denu llu o bobl gyda'i chymysgedd diddorol o nwyddau. Ar ddydd Gwener 1af bob mis, mae Marchnad y Ffermwyr yn ymweld â'r dref.
Mae'r bwrlwm a'r cellwair cyfeillgar rhwng y masnachwyr a'r siopwyr yn creu awyrgylch braf a chroesawgar - beth am alw draw i gael cip ar y lle?