Strategaethau a chynlluniau

Cynllun Cyflenwi Tai Fforddiadwy 2016 - 20

Diben y cynllun hwn yw manylu ar sut a ble y byddwn ni’n cyflenwi mwy o gartrefi fforddiadwy. Bydd y rhaglen gychwynnol yn cyflenwi dros 1,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf, gyda buddsoddiad o fwy na £60m i gyd. Bydd y cynllun yn egluro hefyd sut y gallem ddarparu rhaglen uchelgeisiol i godi tai newydd drwy edrych ar yr opsiynau cyflenwi. Bydd hyn yn cynyddu nifer y cartrefi a gyflenwir ac yn darparu buddsoddiad ychwanegol....

Adroddiad Blynyddol am Effeithiolrwydd y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol 2021 - 22

Mae'n statudol ofynnol i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno adroddiad blynyddol i'r Cyngor ynghylch darpariaeth a pherfformiad, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer gwella holl ystod y Cyfarwyddebau Gwasanaethau Cymdeithasol. Hwn yw'r adroddiad blynyddol gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar effeithiolrwydd ein Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn y sir, ac mae'n cyflwyno'r cynnydd a wnaed yn y meysydd gwella a nodwyd yn adroddiad y llynedd ac yn amlygu'r meysydd sydd i'w datbl...

Datganiad Gweledigaeth y Cabinet 2022 - 2027 (Gorffennaf 2022)

Yn ogystal â mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a thlodi, mae datganiad gweledigaeth y Cabinet hefyd yn cynnwys cryfhau'r economi a chynyddu llewyrch, a buddsoddi mewn tai, addysg, diwylliant, seilwaith a'r amgylchedd i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Darllenwch y Datganiad...

Strategaeth Drawsnewid Cyngor Sir Caerfyrddin

Hwn yw’r tro cyntaf i’r Cyngor gynhyrchu Strategaeth Drawsnewid, a’r bwriad yw y bydd yn darparu’r fframwaith strategol ar gyfer tanio rhaglen o newid a thrawsnewid arwyddocaol ar draws y sefydliad dros y 5 mlynedd nesaf. Bydd y rhaglen yn amlinellu sut y mae'r awdurdod yn bwriadu symud ymlaen i roi mwy o werth a buddion i breswylwyr a busnesau yn y sir a bydd hefyd yn ceisio cyflymu ymhellach y broses o foderneiddio ar draws y cyngor, gan ganiatáu iddo ddarparu gwasanaethau cost-effeithiol o a...

Strategaeth Gorfforaethol

Mae strategaeth 2022 - 2027 yn amlinellu cyfeiriad yr Awdurdod Lleol dros y pum mlynedd nesaf, gan gynnwys ein hamcanion llesiant a gwelliant fel y'u diffinnir gan ddeddfwriaeth. Darperir amrywiaeth o wasanaethau er mwyn bodloni'r amcanion hyn a hynny yn unol â Gwerthoedd Craidd y Cyngor. darllenwch ein Strategaeth Gorfforaethol...

Polisi Diogelu Corfforaethol

Mae’r Polisi Diogelu Corfforaethol hwn yn darparu fframwaith ar gyfer pob gwasanaeth yn y Cyngor gan nodi cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sy’n wynebu risg yn ogystal â’r dulliau y bydd y Cyngor yn eu defnyddio i wybod yn sicr ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau....

Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2022-2023

Mae ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2022-2023 yn archwilio ein cynnydd yn erbyn y Strategaeth Gorfforaethol 2022-2027. Fe'i cynhyrchir gan y Cyngor oherwydd credwn y dylem ddarparu gwybodaeth gynhwysfawr a chytbwys i'r cyhoedd am ein gwasanaethau, fel y gallant weld sut yr ydym yn perfformio a'r heriau yr ydym yn eu hwynebu. darllenwch ein Adroddiad Blynyddol y Cyngor...

Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion 2018 - 2021

Mae Is-adran Gwasanaethau TGCh Sir Gaerfyrddin yn darparu cymorth helaeth a gwasanaethau i bob ysgol ar draws yr Awdurdod. Hon fydd Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion cyntaf erioed Sir Gaerfyrddin sy'n gosod ein gweledigaeth ac sy'n cael ei thanategu gan ein hegwyddorion cyffredinol a meysydd blaenoriaeth allweddol er mwyn darparu gwasanaethau TGCh i ysgolion. Mae defnydd yr ysgol o dechnoleg yn hyrwyddo dysgu arloesol gan fyfyrwyr digidol hyderus, a ysbrydolwyd gan addysgu medrus a chreadi...

Strategaeth Technoleg Ddigidol 2018 - 2021

Mae’r Strategaeth Technoleg Ddigidol yn cyflwyno blaenoriaethau a dyheadau’r Awdurdod o ran technoleg ddigidol yn ystod y 3 blynedd nesaf. Ei diben yw nodi’r technolegau a’r mentrau allweddol fydd yn hwyluso ac yn ategu gweledigaeth Strategaeth Trawsnewid Digidol bresennol a throsfwaol y sefydliad a’r modd y caiff ei rhoi ar waith. Cynulleidfa’r strategaeth hon yw arweinwyr y sefydliad, aelodau etholedig, ein cwsmeriaid a’n staff....

Strategaeth Trawsnewid Digidol 2021 - 2024

Mae’r Strategaeth Trawsnewid Digidol yn cyflwyno dyheadau a blaenoriaethau digidol strategol y Cyngor ac yn amlinellu’r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin Ddigidol. Mae technoleg yn treiddio mwy a mwy i'r holl sectorau ac yn dod yn rhan o lawer o agweddau ar ein bywydau. Mae angen strategaeth trawsnewid digidol ar Gyngor Sir Caerfyrddin oherwydd gall technoleg ddigidol drawsnewid y Sir a bywydau pobl yn ogystal â chreu arbedion tymor hir ar gyfer...

Cymorth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin 2018-23

Mae Strategaeth Cymorth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin 2018-23 yn amlinellu sut fyddwn yn datblygu ac yn darparu gwasanaethau ymyriadau cynnar i gefnogi plant, teuluoedd a phobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin ar unrhyw adeg ym mywyd plentyn, o’r blynyddoedd cynnar ac ymlaen i’r arddegau....

Gwybodaeth ddiweddaraf am wasanaeth Llyfrgelloedd - Symud ymlaen 2017 - 2022

Ein gweledigaeth yw i fod yn wasanaeth llyfrgelloedd cyhoeddus cynhwysol, modern, cynaliadwy o safon uchel yng nghalon pob cymuned yn Sir Gaerfyrddin. Mae gennym cenhadaeth chwarae rhan yn darparu gwasanaethau hygyrch, cynhwysol, cyffrous a chynaliadwy sy'n hyrwyddo a hwyluso dysgu, diwylliant, treftadaeth, gwybodaeth, llesiant a hamdden yn darparu gwasanaethau hygyrch, cynhwysol, cyffrous a chynaliadwy sy'n hyrwyddo a hwyluso dysgu, diwylliant, treftadaeth, gwybodaeth, llesiant a hamdden. Darll...

Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg

Nod y Rhaglen Moderneiddio Addysg yw cyflawni dyheadau'r Awdurdod Lleol o ran moderneiddio ac ad-drefnu ysgolion. Darllenwch Strategaeth Moderneiddio Addysg...

Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin: y 5 mlynedd nesaf

Rydym wedi nodi bron i 100 o brosiectau, cynlluniau neu wasanaethau yr hoffem eu cyflawni dros y pum mlynedd nesaf fel rhan o gynllun Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin.  Drwy gyflwyno'r prosiectau a'r rhaglenni hyn credwn y gallwn gyfrannu at sicrhau mai Sir Gaerfyrddin yw'r lle gorau i fyw a gweithio ynddo ac i ymweld ag ef. Byddwn yn buddsoddi mewn meysydd allweddol wrth inni ymdrechu i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yn y sir.  Bydd adroddiadau ac argymhe...

Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen

Mae’r adroddiad hwn yn garreg filltir sylweddol i’r awdurdod gan mai dyma’r tro cyntaf i strategaeth ystod eang o’r fath cael ei ddatblygu er mwyn adfywio cymunedau gwledig Sir Gâr. Cymeradwywyd yr adroddiad terfynol gan y Cyngor Llawn ar y 11 Medi 2019....

Gofal Cymdeithasol ac Iechyd: Strategaeth Pobl Hŷn 2015 - 2025

Dros y 15 mlynedd nesaf, bydd y gwasanaethau Pobl Hŷn yn dod o dan bwysau cynyddol yn Sir Gaerfyrddin. Bydd mwy na deng mil o bobl hŷn ychwanegol dros 75 oed yn byw yn y sir, a bydd angen gofal a chymorth ar lawer ohonynt.  Nod y strategaeth hon yw edrych yn fanylach ar yr heriau hyn a nodi cynllun i ddarparu gwasanaethau mwy cynaliadwy dros y deng mlynedd nesaf. Caiff y cynllun hwn ei ddiweddaru bob blwyddyn.  Wrth ddatblygu’r strategaeth hon, rydym wedi ymgynghori’n helaeth gyda phreswylwyr,...

Cynllun Cydraddoldeb Strategol

Mae’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn yn nodi egwyddorion ein hymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth ac yn amlinellu sut y bwriadwn gyflawni ein cyfrifoldebau fel cyflogwr a darparwr gwasanaethau ac fel arweinydd cymunedol.  Rydym wedi ymrwymo i drin ein staff, a phobl Sir Gaerfyrddin, yn deg. Byddwn yn sicrhau nad ydym yn gwahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd eu hoedran, anabledd, tarddiad ethnig, cenedligrwydd, crefydd, cred neu ddiffyg cred, dosbarth cymdeithasol, rhywedd, cyfeiriadedd rhy...

Cynllun Trechu Tlodi 2023

Mae'r Cynllun hwn yn ymateb i'n gweithgarwch dros y 12 mis nesaf, ac yn canolbwyntio i raddau helaeth ar gefnogi pobl yn ystod yr argyfwng costau byw. Mae hefyd yn nodi meysydd datblygu allweddol a fydd yn ein galluogi i fireinio ein cynllun tymor hwy er mwyn mynd i'r afael ag achosion ehangach tlodi. Darllenwch Gynllun Trechu Tlodi 2023...

Trawsnewidiadau: Cynllun Adfywio ar gyfer Sir Gâr 2015 - 2030

Mae adfywiad Sir Gâr ar y gweill ers cryn amser, gyda nifer o ddatblygiadau mawr yn dwyn ffrwyth yn 2015. Mae’r dirwedd economaidd yn esblygu gyda safle Sir Gâr yn Ninas-ranbarth newydd Bae Abertawe, y mabwysiadodd y Cyngor y strategaeth ar ei gyfer; erbyn 2030, bydd Sir Gâr yn rhan hyderus, uchelgeisiol a chysylltiedig o Ddinas-ranbarth Ewropeaidd. Ewch i wefan Bargen Ddinesig Bae Abertawe...

Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg

Pwrpas Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSyGA) Sir Gaerfyrddin yw amlinellu sut y byddwn yn bwriadu cyflawni nodau a thargedau Llywodraeth Cymru a amlinellir yn y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg (y ‘Strategaeth’). Mae’r Strategaeth yn amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer system addysg sy’n ymateb mewn ffordd wedi’i chynllunio i’r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg. Y nod yw peri cynnydd yn nifer y bobl o bob oedran a chefndir sy’n rhugl yn y Gymraeg ac sy’n gallu de...

Strategaeth Hybu’r Gymraeg

Mae ‘Strategaeth Hybu’r Gymraeg, Sir Gâr 2023-28’ yn nodi’r hyn sydd angen ei wneud i adfer sefyllfa’r Gymraeg yn y sir drwy gynyddu niferoedd sy’n gallu siarad Cymraeg, cynyddu’r sefyllfaoedd lle mae pobl yn gallu siarad Cymraeg, codi statws yr iaith, cefnogi cymunedau i gynnal yr iaith ac effeithio’n gadarnhaol ar symudiadau poblogaeth.  Mae llunio’r Strategaeth yn un o ofynion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ac mae’n ymgorffori ac yn datblygu’r gwaith a wnaed mewn ymateb i ganlyniadau siomedig C...

Safonau’r Gymraeg (Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011)– Hysbysiad Cydymffurfio

Mae’r hysbysiad cydymffurfio yma’n nodi’r hyn mae’n rhaid i Gyngor Sir Gâr ddarparu a gweithredu er mwyn sicrhau nad ydyw’n trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.  Mae’n cynnwys 174 o gyfarwyddiadau ar sut y bydd y Cyngor yn Cyflenwi Gwasanaethau Cymraeg, Llunio polisi mewn modd sy’n hyrwyddo’r Gymraeg, Gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg, Hybu’r Gymraeg a Chadw cofnodion ynglŷn â’r Gymraeg.  Mae gan y cyhoedd hawl i gwyno os ydyn nhw’n teimlo nad ydy’r Cyngor yn cydymffurfio â’r Safonau, a...

Adroddiad Blynyddol Y Gymraeg

Mae’n ddyletswydd statudol ar yr Awdurdod i weithredu Safonau’r Iaith Gymraeg. Fel rhan o’r Safonau hynny, mae’n ofynnol i ni gyhoeddi Adroddiad Blynyddol i fanylu ar gydymffurfiaeth a gweithredu. Yn yr adroddiad, ceir enghreifftiau o’r hyn sydd wedi ei gyflawni, llaw yn llaw ag astudiaethau achos lleol....

Datganiad ynghylch Gwastraff ar gyfer Sir Gaerfyrddin

Diben y datganiad ynghylch gwastraff yw nodi'r hyn y mae'r Cyngor wedi'i wneud hyd yma i gyrraedd ei dargedau statudol o ran ailgylchu a gwastraff, ein perfformiad hyd yma, a'r hyn y byddwn yn ei gyflawni dros y blynyddoedd nesaf hyd at 2025 darllenwch ein datganiad ynghylch gwastraffRead...