Cefnogi Busnesau Lleol
Mae'r angor Cefnogi Busnesau Lleol yn cynnwys tair elfen allweddol –
Grantiau cychwyn busnes a thyfu busnes
Fel rhan o'i ymrwymiad parhaus i gefnogi datblygu economaidd a busnesau drwy'r cyfnod heriol hwn, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyflwyno Grant Tyfu ac Adfer Busnes Sir Gaerfyrddin sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Nod yr ymyrraeth grant yw cryfhau ecosystemau entrepreneuraidd lleol, a chefnogi busnesau ym mhob cam o’u datblygiad i ddechrau, cynnal, tyfu ac arloesi, gan gynnwys trwy rwydweithiau lleol.
- Grantiau rhwng £1,000 a £10,000 ar gael.
- Gellir ystyried grantiau o hyd at £50,000 fesul achos ar gyfer ceisiadau sy'n dangos yn glir brosiectau arloesi, Ymchwil a Datblygu a/neu ddiogelu at y dyfodol sy'n gysylltiedig â'r strategaeth arloesi lleol.
- Bydd pob grant yn seiliedig ar 50% o'r costau cymwys neu uchafswm o £5,000 ar gyfer pob swydd sy'n cael ei chreu, a/neu £5000 ar gyfer pob swydd sy'n cael ei diogelu, pa un bynnag yw'r lleiaf. (Rhaid creu o leiaf un swydd newydd a/neu ddiogelu un swydd cyfwerth ag amser llawn (CALL) er mwyn cael mynediad at y grant.
Gwneud cais am y grant cychwyn busnes
Gwneud cais am y grant tyfu ac adfer busnes
Cronfa Datblygu Eiddo
Mae Cronfa Datblygu Eiddo Masnachol Sir Gaerfyrddin yn gallu rhoi cymorth ariannol i ddatblygwyr tuag at godi adeiladau diwydiannol a masnachol gyda'r prif nod o greu capasiti ar gyfer cyflogaeth yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r gronfa yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Mae hyd at £750,000 ar gael ar gyfer prosiectau cymwys ar gyfradd ymyrryd o hyd at 45%.
Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau a fydd yn cynnig manteision pendant i'r economi leol o ran:
- Nifer ac ansawdd y swyddi a grëir/y darperir ar eu cyfer
- Yr arwynebedd llawr a grëir
- Maint y tir a ddatblygir
- Nifer y BACHau y darperir ar eu cyfer
- Effaith y datblygiad ar yr iaith Gymraeg
- Nifer y mentrau sy'n mabwysiadu neu’n gwella strategaethau cydraddoldeb a systemau monitro.
Nod y cyllid yw talu'r bwlch ariannol rhwng y costau adeiladu a gwerth yr eiddo ar y farchnad wedi'i gwblhau. Bwriedir i’r cymhelliad hwn roi hwb i nifer y safleoedd busnes o safon uchel sydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin drwy gynnig arian i ddarparu unedau diwydiannol neu swyddfeydd o safon uchel.
Gwneud Cais am y Cronfa Datblygu Eiddo
Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes
Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i gefnogi datblygu economaidd a busnesau drwy'r cyfnod heriol hwn, yn ogystal â bod yn garbon sero net erbyn 2030, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyflwyno Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes Sir Gaerfyrddin. Bydd y Gronfa yn gynllun grant trydydd parti, a fydd yn darparu cymorth cyfalaf i fusnesau tuag at brynu systemau ynni adnewyddadwy ar gyfer eu safleoedd busnes.
Nod y gronfa yw helpu busnesau lleol i fod yn gynaliadwy yn ystod y cyfnod heriol hwn, a rhoi cymorth iddynt dyfu a ffynnu a'u helpu ar eu taith tuag at ddod yn garbon sero net.
- Grantiau rhwng £1,000 (lleiafswm) a £25,000 (uchafswm) ar gael tuag at gost y system ynni adnewyddadwy
- Bydd pob dyfarniad grant yn seiliedig ar ddim mwy na 50% o'r costau cymwys
Gwneud Cais am y Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes