Gwaith Safle

Rydym wedi penodi Bouygues UK i ddylunio ac adeiladu Parth Un yn dilyn proses dendro helaeth drwy gyfrwng Fframwaith Contractwyr Rhanbarthol De-orllewin Cymru.

Mae'r contract yn rhoi ffocws allweddol ar werth cymdeithasol i sicrhau y bydd pobl leol a busnesau yn elwa ar y manteision o'r cynllun uchelgeisiol. Bydd hyn yn golygu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i bobl leol, gan gynnwys swyddi ar gyfer pobl sy'n dechrau ar eu gyrfaoedd, prentisiaethau, lleoliadau gwaith a chymorth cyflogaeth ehangach. Bydd cymorth hefyd yn cael ei dargedu ar gefnogi'r rheiny sy'n ddi-waith yn y tymor hir neu heb fod yn weithgar yn economaidd, a mentrau wedi'u teilwra mewn cymunedau ac ysgolion lleol i ysbrydoli pobl i anelu am yrfaoedd perthnasol.

Mae Bouygues UK yn arweinydd byd-eang gyda phortffolio helaeth o gynlluniau gwerth miliynau o bunnau lle mae arloesedd wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer ystod o ddatblygiadau o'r radd flaenaf ym maes gofal iechyd ac addysg, a datblygiadau masnachol a phreswyl, gan gynnwys Campws Arloesedd Caerdydd gwerth £120miliwn a gwblhawyd yn ddiweddar.

Ymgymerir â gwaith dylunio pellach ynghyd â pharatoi a chyflwyno gwybodaeth gynllunio fanwl a gwaith paratoi ar y safle.

Nod Budd i'r Gymuned yw sicrhau'r gwerth mwyaf posibl ar gyfer arian Sir Gaerfyrddin drwy weithio gyda'r contractwr Bouygues i ddarparu rhaglen atodol o weithgareddau cymdeithasol, economaidd, addysgol ac amgylcheddol ochr yn ochr â'r gwaith adeiladu.