Gwasanaeth Cwsmeriaid
Gwasanaeth cwsmeriaid yw'r cymorth rydych chi'n ei gynnig i'ch cwsmeriaid cyn, yn ystod ac ar ol iddynt brynu cynnyrch/gwasanaeth.
Gallwch wella profiad gwasanaeth cwsmeriaid eich busnes drwy gael gwybodaeth gan arbenigwyr yn y diwydiant drwy ddarganfod y chwe cholofn o ran gwasanaeth cwsmeriaid:
- Brandio
- Emosiwn
- Canfyddiad
- Taith y Cwsmer
- Hwylustod y trafodion
- Gwasanaeth Cwsmeriaid
Ymhlith yr elfennau eraill i'w hystyried ceir cyfathrebu, iaith y corff, adborth cwsmeriaid a chyfryngau cymdeithasol. Gwyliwch y fideo isod i gael cyngor ac arweiniad ar wasanaeth cwsmeriaid.