Pam yr ydym wedi ymgynghori

Yr haf diwethaf, cymerodd 3,943 ohonoch ran mewn arolwg trigolion i ddweud wrthym:

  • Sut rydych chi'n teimlo amdanom ni fel Cyngor a'n perfformiad,
  • Beth oedd yr heriau mwyaf enbyd i chi a’ch teuluoedd; a
  • Sut y byddech chi'n blaenoriaethu meysydd ar gyfer buddsoddi.

Mae'r wybodaeth rydych chi'n ei rhannu gyda ni yn hanfodol bwysig gan ei bod yn ein helpu i ddod i'ch adnabod chi'n well a datblygu dealltwriaeth o'r hyn sydd bwysicaf i chi a'ch teuluoedd. Ein bwriad felly yw cynnal yr un arolwg yn rheolaidd i fonitro sut mae eich barn yn newid dros amser.

Mae'n gyfnod heriol i lawer, ac nid yw'r Cyngor yn ddiogel rhag yr heriau hyn. Rydym yn wynebu cyfnod o alw cynyddol am ein gwasanaethau mewn cyfnod lle mae adnoddau (ariannol ac fel arall) yn gostwng. Ein blaenoriaeth bob amser oedd gwneud y gorau i'n trigolion a'n defnyddwyr gwasanaeth, ond mae'n rhaid i ni i gyd fod yn realistig ynghylch sut olwg sydd ar hynny yn y dyfodol. Bydd eich ymgysylltiad parhaus â ni yn rhoi'r cyfle gorau i ni ddarparu gwasanaethau sy'n diwallu eich anghenion.

 

 

 

 

 

 

Canlyniad yr ymgynghoriad

Mae prif ganfyddiadau'r arolwg ar gyfer 2023 wedi'u rhannu ar draws y sefydliad ac mae trafodaethau wedi'u cynnal am y canlyniadau. Manylir isod ar y prif ganfyddiadau a'r angen am ddatblygiad ynghyd ag unrhyw gamau gweithredu a gweithgarwch rydym yn bwriadu eu cymryd mewn ymateb i hynny.

Canfyddiad Beth mae hyn yn ei olygu? Beth ydym ni'n ei wneud ynghylch y mater?
Datblygu ymhellach gyfathrebu clir, wedi'i dargedu. Rydym yn teimlo y gallwn wneud mwy ac archwilio gwahanol ffyrdd o rannu gwybodaeth â thrigolion a defnyddwyr gwasanaeth am ein gwasanaethau, sut a pham rydym yn defnyddio adnoddau yn y ffordd rydym yn ei wneud a'n perfformiad yn fwy cyffredinol.

Byddwn yn rhannu gwybodaeth am ein perfformiad mewn perthynas â meysydd gwasanaeth allweddol yn fwy rheolaidd. Bydd y wybodaeth hon yn dryloyw ac yn ystyrlon.

Byddwn yn adolygu'r ffordd rydym yn rhannu gwybodaeth am sut rydym yn defnyddio ein hadnoddau.

Er mwyn datblygu cyd-ddealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhyngom ni a chi, byddwn yn darparu mwy o wybodaeth sy'n nodi canlyniadau realistig sy'n ymwneud â'r hyn y gallwn ei gyflawni a phryd y gallwn ei gyflawni. Byddwn yn cyfathrebu hyn yn glir ac mewn modd amserol.

Darparu gwasanaethau ac ymyrraeth wedi'u targedu ar sail lleoliad

Fel rhan o'r arolwg, fe ofynnon ni ym mha rannau o'r sir rydych chi'n byw. Mae hyn wedi ein galluogi i ddeall pa ardaloedd y mae materion penodol yn gysylltiedig â nhw. Yn bwysicaf oll, gallwn nawr ganolbwyntio ein hymdrechion ar rai o'r prif ardaloedd o ran angen, sy'n sicrhau ein bod yn defnyddio ein hadnoddau yn y ffordd gywir.

Dyma rai o'r materion allweddol a amlygwyd gennych:

  • Mae'r argyfwng costau byw yn her sylweddol i chi a'ch teuluoedd.
  • Canol Trefi h.y. Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli yn edrych yn ddi-raen a bod angen sylw arnynt mewn perthynas â glanweithdra.
  • Canol trefi yn ymddangos eu bod yn cael eu hesgeuluso o ran buddsoddiad economaidd, h.y. siopau gwag, diffyg swyddi lleol ac ati.

Mae canolfannau Hwb y Cyngor ar draws y sir a 'Hwb Fach y Wlad' yn darparu cymorth ac arweiniad i drigolion sydd â phryderon yn ymwneud â'r argyfwng costau byw. Mae'r ddarpariaeth hon yn un elfen o Gynllun Trechu Tlodi ehangach y Cyngor.

Nod ein menter newydd 'Tîm Tacluso', 'Tacluso ein trefi' yn ceisio gwella glendid a golwg canol ein trefi. Mae'r fenter yn cynnwys rhaglen waith a fydd yn cael ei chynnal dros y misoedd nesaf.

Mae gweledigaeth economaidd newydd yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ar gyfer y Sir. Bydd y themâu a drafodir yn cynnwys creu swyddi, cymorth i fusnesau, denu buddsoddiad a manteisio ar dueddiadau a thechnolegau newydd a datblygol i annog twf economaidd.

Sylw penodol ar faterion penodol

Mae nifer o'r materion a amlygwyd gennych yn gymhleth a sylweddol ac felly mae'n briodol i'w harchwilio ymhellach drwy barhau i ymgysylltu â chi a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu datganiadau sefyllfa, grwpiau gorchwyl a gorffen neu weithio mewn partneriaeth.

Mae hyn yn arbennig o berthnasol i'r themâu canlynol:

  • Mynediad i iechyd a gofal cymdeithasol, a chymorth iechyd meddwl a llesiant,
  • Mynediad i gysylltiadau trafnidiaeth a thrafnidiaeth gyhoeddus addas i'r diben,
  • Tai fforddiadwy sydd ar gael.

Byddwn yn cydweithio â phartneriaid i ddatblygu strategaeth atal a chynllun gweithredu ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn.

Mae Fframwaith Atal Cymunedol wedi’i lansio sy’n darparu un pwynt cyswllt i gefnogi lles. Mae yna hefyd blatfform digidol ‘Cysylltu Sir Gâr’ sydd wedi’i gynllunio i ddarparu gwybodaeth am wasanaethau cymorth, gwybodaeth leol a digwyddiadau cymunedol ar draws y Sir.

Byddwn yn gweithio gyda'r Bwrdd Iechyd i ddarparu lefelau hygyrch a phriodol o gymorth i bawb sydd â phroblemau Iechyd Meddwl gan ehangu mynediad a chymorth i Blant ac Oedolion Agored i Niwed.

Rydym yn ymchwilio i ddatblygu Strategaeth Trafnidiaeth Gymunedol ar gyfer y sir.

Mae'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai yn cadarnhau ein hymrwymiad i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy o ansawdd da ac ynni-effeithlon.

Byddwn yn:

  • adeiladu tai Cyngor newydd, ailddefnyddio tai gwag,
  • cynyddu ein stoc dai drwy brynu cartrefi sector preifat ar y farchnad agored,
  • gweithio gyda'n partneriaid Cymdeithasau Tai a'u cefnogi i adeiladu mwy o dai yn y Sir,
  • rheoli tai preifat yn fewnol drwy ein Hasiantaeth Gosod Syml,
  • darparu tai fforddiadwy i'w perchnogi ar gost isel drwy'r system gynllunio.
Gwella aliniad â chynllunio busnese Gellir gwella amseriad yr arolwg er mwyn caniatáu gwell aliniad â gweithdrefnau cynllunio mewnol yn y dyfodol. Byddwn yn alinio amseriad yr arolwg a dosbarthiad y canlyniadau'n fewnol yn well er mwyn caniatáu digon o amser i adrannau ystyried y canfyddiadau fel rhan o'u gweithgaredd cynllunio busnes yn y dyfodol. Bydd hyn yn sicrhau bod barn trigolion yn llywio cynlluniau gwaith yn y dyfodol a'r gwaith o osod blaenoriaethau.