Pam yr ydym yn ymgynghori
Rydym yn ceisio casglu barn trigolion a defnyddwyr gwasanaethau ar sawl maes allweddol i ddeall sut maen nhw'n teimlo am berfformiad y Cyngor er mwyn llywio ein gwaith cynllunio a phennu blaenoriaethau yn y dyfodol.
Rydym yn canolbwyntio ar gael dealltwriaeth o'r materion sy’n bwysig i unigolion a'u teuluoedd, a’u blaenoriaethau.
Mae ymgynghori â'n trigolion ar berfformiad hefyd yn un o ofynion allweddol y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau. Yr arolwg hwn yw'r trydydd yn yr hyn a fydd yn sgwrs sy'n datblygu gyda phreswylwyr.
Sut i gymryd rhan
Cyfrannwch drwy lenwi’r arolwg ar-lein.
Fel arall, gallwch ofyn am gopi papur yn HWBs Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli.
Camau nesaf
Bydd ymatebion i'r arolwg yn cael eu dadansoddi fesul ardal (lle bo'n bosibl) a fydd yn rhoi syniad o'r materion sy'n wynebu ein trigolion ar lefel mor lleol â phosibl. Caiff y canfyddiadau eu crynhoi mewn adroddiad.
Caiff yr adroddiad ei rannu ar bob lefel o'r sefydliad a'i ystyried gan y Cabinet i sicrhau bod barn trigolion a defnyddwyr gwasanaeth yn cael ei ystyried wrth wneud penderfyniadau a chynllunio ar gyfer y dyfodol.