Trawsnewid Trefi
Yn yr adran hon
- 7. Ad-dalu - Pryd efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu'r grant
- 8. Effaith ar yr Amgylchedd
- 9. Diogelwch
- 10. Awdurdod Statudol a Rheoli Cymorthdaliadau
- 11. Budd i'r Gymuned
- 12. Sut mae gwneud cais
7. Ad-dalu - Pryd efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu'r grant
Bydd unrhyw grantiau a ddarperir hyd at werth £250,000 yn cael eu hadennill os bydd eich busnes:
- yn peidio â masnachu
- yn newid yn sylweddol o'r manylion a roddwyd gennych yn eich cais
- yn gwerthu unrhyw eitemau a brynir gydag arian grant
- yn newid perchnogaeth
- yn symud allan o Sir Gaerfyrddin neu'n cael ei werthu
Bydd angen i chi ad-dalu unrhyw arian yr ydych wedi'i dderbyn o'r grant fel a ganlyn:
Swm y cyllid | Dyddiad o'r taliad terfynol | Y swm sydd i'w ad-dalu |
---|---|---|
Hyd at £250,000 | O fewn 5 mlynedd | Cyllid i'w ad-dalu'n llawn |
Hyd at £250,000 | Ar ôl 5 mlynedd | Dim cyllid i'w ad-dalu |
£250,000 + | O fewn 10 mlynedd | Cyllid i'w ad-dalu'n llawn |
£250,000 + | Ar ôl 10 mlynedd | Dim cyllid i'w ad-dalu |
Mae'n rhaid ad-dalu'r grant yn llawn ar orchymyn os:
- canfyddir eich bod wedi gwneud unrhyw gamliwio yn eich cais.
- ydych wedi torri telerau'r grant. Byddwch yn derbyn manylion llawn y telerau os bydd eich cais yn llwyddiannus.