Pethau i'w hystyried
Efallai y codir ffi osod gychwynnol arnoch a bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar y cysylltiad sy'n ofynnol.
Bydd angen i chi dalu bob mis am ffioedd rhentu parhaus neu daliadau defnyddio data.
Bydd angen i chi feddwl ble i osod eich llwybrydd gan y gall lleoliad y llwybrydd effeithio ar gryfder y signal. Efallai y bydd angen i chi ystyried ymestyn y signal Wi-Fi i gyrraedd lleoliadau eraill yn yr adeilad. Mae modd gwneud hyn trwy ddefnyddio addasyddion pŵer neu estynwyr Wi-Fi. Fodd bynnag, efallai y codir tâl ychwanegol
Mae angen contract busnes ar adeiladau cymunedol - dylech gysylltu â sawl Darparwr Gwasanaethau Rhyngrwyd i gael y fargen orau sy'n addas i'ch adeilad cymunedol.
Cofiwch wirio a rhoi ystyriaeth ofalus i delerau ac amodau eich Darparwr Gwasanaethau Rhyngrwyd gan y bydd eich cysylltiad rhyngrwyd ar gael i'r cyhoedd. Gwriwch hyn gyda'ch Darparwr Gwasanaethau Rhyngrwyd cyn archebu.
Mae yna atebion eraill y gall neuadd gymunedol eu hystyried os oes angen mynd i'r afael â'r sefyllfa ar unwaith. Gallech edrych ar y posibiliad o gael cysylltedd trwy fand eang Symudol (3G, 4G, 5G), Mynediad Di-wifr Sefydlog neu Loeren.
Bydd angen i chi ystyried costau misol a chontractau yn ôl defnydd pan fyddwch yn edrych ar bosibiliadau eraill.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig grant o'r enw cynllun Allwedd Band Eang Cymru a all ariannu (neu ariannu’n rhannol) y gost o osod cysylltiad band eang newydd ar gyfer cartrefi a busnesau.
Byddai'n rhaid ystyried neuaddau cymunedol fesul achos.