Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus

Diweddarwyd y dudalen ar: 15/01/2024

Er mwyn mynd i’r afael â throseddau ac anhrefn sy’n gysylltiedig ag alcohol a chyffuriau mewn rhannau o Ganol Tref Llanelli, rydym wedi cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) mewn ardal o’r dref o dan Adran 59 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014. Mae map o'r ardal dan sylw isod ac mae arwyddion wedi'u gosod yn yr ardal. Daeth y Gorchymyn i rym ar 12 Ionawr 2024 a bydd mewn lle am dair blynedd.

Mae cyflwyno'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) newydd yn dilyn adolygiad o'r Gorchymyn blaenorol gan y Cyngor a'r Heddlu, dadansoddiad o droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol yn yr ardal, ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol ac ymarfer ymgynghori cyhoeddus. Canfu’r adolygiad fod y Gorchymyn blaenorol wedi bod yn effeithiol o ran lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig ag alcohol.

Er nad yw’n drosedd i yfed alcohol yn yr ardal ddynodedig, mae’r Gorchymyn yn galluogi swyddogion heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu i wahardd yfed alcohol ar y tir y mae’n berthnasol iddo os ydynt yn credu y bydd yfed alcohol yn arwain at effaith andwyol ar ansawdd bywyd y rhai yn yr ardal. Fodd bynnag, mae’n drosedd methu â chydymffurfio â chais a wneir gan yr heddlu i roi’r gorau i yfed neu ildio alcohol, heb esgus rhesymol.

Mae pŵer newydd hefyd wedi’i gyflwyno yn y Gorchymyn i alluogi’r heddlu i fynnu bod unigolion yn ildio offer cyffuriau. Mae'r ardal ddaearyddol a gwmpesir gan y Gorchymyn hefyd wedi'i hymestyn.

Bydd methu â chydymffurfio â cheisiadau yn gyfystyr â thorri’r Gorchymyn a gallai unigolion gael eu harestio a allai arwain at ddirwy o hyd at £1000.

Nid yw’r Gorchymyn yn gymwys i fannau cyhoeddus lle mae gwerthu ac yfed alcohol wedi’i awdurdodi o dan ddeddfwriaeth arall, er enghraifft mewn tafarndai a chlybiau.

Bydd y GDMC yn cael ei adolygu'n rheolaidd.

Cysylltwch â Kate Harrop, Rheolwr Diogelwch Cymunedol, os oes gennych unrhyw ymholiadau - khharrop@sirgar.gov.uk