Enwi a rhifo strydoedd
Diweddarwyd y dudalen ar: 31/08/2023
Rydym yn gyfrifol am enwi'r holl ffyrdd a strydoedd, ac am enwi a rhifo'r holl eiddo (preswyl, masnachol a diwydiannol) yn Sir Caerfyrddin
Nid oes gan y Post Brenhinol bŵer statudol i enwi stryd, enw neu rif eiddo neu ailenwi neu ail-rifo eiddo.
Gellir ond creu cyfeiriad a derbyn côd post gan y Post Brenhinol ar ôl iddo gael ei enwi a'i rifo'n swyddogol gan y cyngor. Felly os ydych yn cynllunio datblygiad newydd, yn adeiladu eiddo newydd, yn trawsnewid eiddo presennol neu'n dymuno newid enw eich eiddo, rhaid i chi gysylltu â ni ar gyfer creu cyfeiriad neu i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol.
Bydd methu â gwneud hyn yn golygu na fydd y cyfeiriad yn gyfeiriad swyddogol a bydd hyn yn arwain at broblemau. Er enghraifft, ni fydd y Post Brenhinol, cwmnïau dosbarthu neu wasanaethau cyfleustodau yn adnabod y cyfeiriad; ac efallai y ceir anawsterau wrth gofrestru i bleidleisio a dyrannu cardiau credyd. Hefyd, efallai bydd gwasanaethau Ambiwlans, Tân a Heddlu yn cael anhawster dod o hyd i'r cyfeiriad mewn argyfwng.
Dylid hefyd nodi bod gan y cyngor bŵer i orfodi newidiadau i gyfeiriadau answyddogol er mwyn sicrhau cydymffurfiad â chonfensiynau safonol a bod Polisi'r Cyngor ynghylch enwi a rhifo strydoedd yn cael ei gynnal. Mae'n well dweud wrth y cyngor am eich gofynion enwi a rhifo newydd cyn gynted â phosib.
Mae angen y gwasanaeth Enwi a Rhifo Stryd os:
Ydych wedi adeiladu eiddo newydd
Ydych wedi newid eiddo fel ysgubor i fod yn annedd, neu un eiddo yn fflatiau.
Ydych yn dymuno ail-enwi eich eiddo
Ydych yn dymuno ychwanegu enw i eiddo sydd â rhif ar hyn o bryd
Ydych wedi adeiladu datblygiad newydd o fwy nag un annedd. Gall hyn gynnwys enwi unrhyw ffyrdd o fewn y datblygiad
Ydych yn dymuno newid gweddlun datblygiadau newydd sydd eisoes wedi mynd drwy’r broses enwi a rhifo
Yw preswylwyr y dymuno ail-enwi stryd bresennol
Ydych angen cadarnhad o gyfeiriad
Fe’ch cynghorir yn gryf i wneud unrhyw gais am Enwi a Rhifo Strydoedd ar gyfer eiddo newydd cyn gynted ag sy’n bosibl yn y broses ddatblygu. Bydd hyn yn rhwystro unrhyw ohiriad wrth gael gwasanaethau ar gyfer yr eiddo.
Er mwyn sicrhau bod y broses yn mynd rhagddi mor effeithlon â phosibl, gofynnir i'r datblygwr ddarparu'r wybodaeth ganlynol:
- Ffurflen gais wedi'i llenwi, ei llofnodi a'i dyddio
- Cynllun Lleoliad yn dangos yr eiddo
- Ffi gywir fel y nodir ar raddfa'r taliadau, ni fydd manylion yn cael eu cadarnhau nes bydd y ffi wedi'i derbyn
Mae'r ffurflenni cais, fersiynau pdf y gellir eu newid, ar gael i'w lawrlwytho. Anfonwch eich cais wedi'i gwblhau at: snn@sirgar.gov.uk
- SNN1 - Ailenwi/ychwanegu enw at eiddo sy'n bodoli eisoes (385KB, pdf)
- SNN2 - Un breswylfa newydd (762KB, pdf)
- SNN3 - Datblygiadau newydd - Enwi a rhifo ond dim enwi strydoedd (331KB, pdf)
- SNN4 - Datblygiadau newydd - Enwi a rhifo gyda enwi strydoedd (183KB, pdf)
- SNN5 - Newid llunwedd datblygiad (199KB, pdf)
- SNN6 - Addasu eiddo yn fflatiau neu'n unedau (288KB, pdf)
- SNN7 - Ailenwi stryd ar gais preswylwyr (374KB, pdf)
- SNN8 - Cofrestru eiddo presennol yn swyddogol (567KB, pdf)
- Ffioedd enwi a rhifo strydoedd (126KB, pdf)
Mae'n rhaid cyflwyno'r ffi gywir fel y nodir ar raddfa'r taliadau gyda'ch cais, neu ni fydd yn ddilys ac ni chaiff unrhyw waith ei wneud o ran prosesu ac asesu eich cais. Bydd angen i chi ddarparu'r manylion canlynol:
- Math o gais e.e. cais enwi a rhifo strydoedd
- Cyfeirnod y cais, neu enw a lleoliad y cais os nad oes gennych gyfeirnod eto
- Y ffi ymgeisio gywir fel y nodir ar raddfa'r taliadau.
Dros y Ffôn
Rydym yn derbyn taliadau cerdyn. Os hoffech siarad ag aelod o staff o'r tîm arianwyr, ffoniwch 01267 228686 yn ystod oriau swyddfa.
Trwy'r Post
Gwnewch eich siec yn daladwy i 'Cyngor Sir Caerfyrddin' a'i phostio i'r cyfeiriad isod: Y Gwasanaethau Cynllunio, Swyddfeydd y Cyngor, Heol Cilgant, Llandeilo SA19 6HW.
Yn Bersonol
Gellir talu drwy ddefnyddio arian parod, cerdyn credyd/debyd neu siec. Gellir gweld manylion ac oriau agor pob lleoliad:
- Yr Hwb - Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid Rhydaman, 41 Stryd y Cei, Rhydaman SA18 3BS
- Y ddesg dalu yng Nghanolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid Caerfyrddin, 3 Heol Spilman, Caerfyrddin SA31 1LE
- Yr Hwb - Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid Llanelli, 36 Stryd Stepney, Llanelli
Taliadau BACS
Anfonwch neges e-bost at snn@sirgar.gov.uk i gael rhagor o fanylion.
Pan gymeradwyir datblygiad newydd, mae'r Cyngor yn creu cyfeiriadau sy'n endidau 'dros dro'. Rhennir manylion y datblygiad arfaethedig â'r Post Brenhinol a fydd wedyn yn 'cadw a chofnodi' y cyfeiriadau ar ei gronfa ddata cyfeiriadau eiddo 'heb eu hadeiladu hyd yn hyn'. Er mwyn atal post rhag cael ei anfon at breswylfeydd/adeiladau nad ydynt yn bod, ni ddechreuir defnyddio'r cyfeiriadau hyd nes bydd deiliaid ynddynt neu hyd nes y bydd y preswylfeydd/adeiladau bron â chael eu cwblhau ac felly'n gallu derbyn gwasanaethau post.
Wrth i bob eiddo nesáu at gael ei gwblhau, bydd yn ofynnol i'r datblygwr hysbysu'r tîm Enwi a Rhifo Strydoedd ynghylch hynny a gwneud cais am ddechrau defnyddio'r cyfeiriad. Pan hysbysir ynghylch hyn, rhoddir cadarnhad i'r holl wasanaethau mewnol a phartneriaid allanol, gan gynnwys y gwasanaethau brys.
Hysbysir y Post Brenhinol er mwyn sicrhau bod y cofnodion priodol yn cael eu symud o'i gronfa ddata 'heb eu hadeiladu hyd yn hyn' i'w Ffeil Cyfeiriad Côd Post (PAF) gan olygu bod y manylion ar gael at ddefnydd cyffredinol a defnydd cyfeirio ledled y Deyrnas Unedig o fewn 24-48 awr, er gall yr ychwanegiad/cywiriad hwn gymryd sawl mis i gyrraedd defnyddwyr data'r Ffeil Cyfeiriad Côd Post.
Bydd hyn yn digwydd wrth i gwmnïau allanol ddiweddaru eu cronfeydd data drwy ddefnyddio'r Cynnyrch Rheoli Cyfeiriadau diweddaraf, nad oes gan y Post Brenhinol unrhyw awdurdodaeth drostynt.
- British Gas
- BT
- Cyngor Tref/Cymuned
- Treth y Cyngor
- Pencadlys Heddlu Dyfed-Powys
- Cofrestru Etholiadol
- Y Gofrestrfa Tir
- Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
- Yr Arolwg Ordnans
- Y Post Brenhinol
- Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
- Ymddiriedolaeth GIG (Rhanbarth y Canolbarth a'r Gorllewin)
- Dŵr Cymru
- Western Power Distribution
Cynllunio
Canllaw Cais Cynllunio
- Syniad Datblygu
- A oes arnaf angen Asiant Cynllunio?
- Gwybodaeth Allweddol
- Cam Cyn Ymgeisio
- Math o Gais Cynllunio
- Cyflwyno Cais
- Dilysu
- Cais Byw
- Pwyllgor Cynllunio
- Apeliadau
- Compliance / Enforcement
- Cwblhau Datblygiad
Brosiectau Cynllunio Mawr
Ymestyn / newid eich cartref
- Tystysgrif datblygiad cyfreithlon
- Gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio
- Caniatâd cynllunio deiliad tŷ
- Eiddo cyfagos / waliau cydrannol
- Ystlumod ac adar sy'n nythu
- Ardaloedd Cadwraeth
- Newidiadau i adeilad rhestredig
Chwiliwch am gais cynllunio
Torri rheolau cynllunio
Newid defnydd (Cynllunio)
Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (PAC)
Cyswllt cynllunio priffyrdd
Offeryn Asesu Model Hyfywedd Datblygu
Systemau Draenio Cynaliadwy
Gwnewch gais am arian Adran 106
Gorchymyn Datblygu Lleol (GDLl)
Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth
- Deall rhestru
- Pryd mae'n ofynnol cael caniatâd adeilad rhestredig?
- Addasiadau i Adeiladau Rhestredig
- Gwneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig
- Beth sy'n digwydd ar ôl i benderfyniad ynghylch caniatâd adeilad rhestredig gael ei wneud
- Gwaith ar adeilad rhestredig heb ganiatâd
- Cynnal a chadw ac atgyweirio
- Ffynonellau gwybodaeth eraill
- Ardaloedd Cadwraeth
Cadwraeth a chefn gwlad
Enwi a rhifo strydoedd
Fy Un Agosaf - Gwybodaeth Cynllunio
Polisi Cynllunio
- Cynllun Datblygu Lleol 2006 - 2021
- Adroddiad Adolygu
- Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA)
- Tai Fforddiadwy
- Ardaloedd Tai Fforddiadwy
- Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB)
- Cyflenwad tir ar gyfer tai
- Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC)
Cynllun Datblygu Lleol 2018 - 2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
- Cytundeb Cyflawni
- Safleoedd Ymgeisio
- Adroddiad yr Arolygydd a Mabwysiadu'r Cynllun
- Cyflwyno'r Cynllun, ac Archwiliad Annibynnol
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Ail Adneuo
- Strategaeth a Ffefrir (Ymgynghoriad Cyhoeddus Cyn Adneuo)
- Datblygu sylfaen o dystiolaeth
- Cwestiynau cyffredin
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo Cyntaf
Ynni Adnewyddadwy
Cynllunio Ecoleg
Targedau ffosffad newydd
- Pa gamau ydym wedi eu cymryd?
- Cyfrifiannell Gorllewin Cymru
- Mesurau Lliniaru
- Y Camau Nesaf
- Cwestiynau Cyffredin Ffosfad
- Prosiect Dalgylch Arddangos Teifi
Bioamrywiaeth
- Pam mae bioamrywiaeth yn bwysig
- Rhywogaethau Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Cynefinoedd Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin
- Prosiect Corsydd HLF
- Prosiect brithegion y gors
- Gwrychoedd
- Coetiroedd
- Pryfed Peillio
- Mynd yma ac acw!
- Deddfwriaeth a Chanllawiau
- Safleoedd Gwarchodedig
- Clefyd coed ynn
- Bywyd Gwyllt yn eich Ward
- Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
Gwastraff
Mwy ynghylch Cynllunio