Aelodau FfMLl

Diweddarwyd y dudalen ar: 15/02/2023

Bydd yr aelodaeth yn cynnwys Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd a etholwyd yn unol â rheoliadau FfMLl. Lleiafswm o 10 ac uchafswm o 20 o aelodau eraill, sy’n gorfod cynnwys cynrychiolaeth gytbwys o ddefnyddwyr mynediad hamdden, tirfeddianwyr a deiliaid, ynghyd â chynrychiolaeth o fuddiannau eraill sy’n arbennig o berthnasol i’r ardal.

Bydd yr aelodaeth yn gytbwys fel nad oes un grŵp o fuddiannau yn arglwyddiaethu, cynrychioli croestoriad o fuddiannau yn yr ardal, byw neu’n gweithio o fewn yr ardal neu â gwybodaeth drylwyr am yr ardal.

Bydd disgwyl i aelodau:

  • Lynu at yr adrannau sy’n ymwneud â Fforymau Mynediad Lleol yn Neddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, rheoliadau perthnasol a’r Cylch Gorchwyl hwn
  • Dangos ymrwymiad i gyrraedd nodau’r FfMLl drwy weithio’n adeiladol gydag aelodau eraill
  • Gallu rhoi’r amser angenrheidiol i fynychu cyfarfodydd a rhwydweithio y tu allan i gyfarfodydd
  • Bod â digon o brofiad o fynediad i gefn gwlad yn yr ardal leol i allu gwneud cyfraniad cytbwys ac adeiladol i wella’r ddarpariaeth mynediad
  • Gallu gweithio gydag ystod eang o grwpiau buddiannau.