Dysgu i bawb

Diweddarwyd y dudalen ar: 10/05/2024

Ysgolion

Rydym yn croesawu ymweliadau gan grwpiau ysgol o bob oedran. Mae ymweliadau ysgol am ddim ac yn parhau am hyd at ddwy awr. Gallwn groesawi 30 plentyn mewn un ymweliad.

Gallwn deilwra gweithdai yma’n yr Archifau i’ch milltir sgwâr chi. Mae'r gweithdai hefyd ar gael trwy Teams.

Mae ein sesiynau ysgol yn seiliedig ar ddigwyddiadau lleol a dogfennau gwreiddiol. Caiff disgyblion gyfle i gyflwyno'u cwestiynau ymchwil eu hunain cyn iddynt ymweld, drwy gyfarfod Teams gyda'n Harchifydd. Ar ddiwedd y sesiwn Teams bydd disgyblion yn pleidleisio fel dosbarth ar ba gwestiynau y byddant yn ymchwilio iddynt pan fyddant yn ymweld â'r Archifau.

Pa bwnc hanesyddol bynnag rydych yn bwriadu'i astudio, cysylltwch â ni i weld a allwn ni helpu. Os na allwn gynnig sesiwn lawn, gallwn roi cyngor ar y ffordd orau i chi fwrw ymlaen â hyn.

Cysylltwch â ni yn: archifau@sirgar.gov.uk

Colegau a phrifysgolion

Mae croeso i diwtoriaid drefnu ymweliadau gan grwpiau o fyfyrwyr. Mae croeso i israddedigion ac ôl-raddedigion. Gallwn ddarparu arweiniad ar sut i ddefnyddio'r Archifau, a chyflwyniad i'r adnoddau sydd gennym.

Cysylltwch â ni yn: archifau@sirgar.gov.uk