Dewiswch iaith
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Cymraeg

Gwnewch mowldiau eich hun

Mae’r MAYKU FormBox yn llinell gynhyrchu ei hun. Crefftwch â llaw neu gyda'n hargraffydd 3D. Mowldiau mewn eiliadau.

Codio/Rhaglennu Cyfrifiadurol

Cyfle i wneud gemau, rhaglenni ac o bosibl bod yn rhan o'r Clwb Codio lle gall pobl ddysgu am Scratch, HTML, Python, Clwb Codio CSS ac ati.

Creu/golygu fideos a ffotograffiaeth

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn ffilm / fideo neu ffotograffiaeth, greu golygfa gan ddefnyddio'r sgrin werdd a golygu eu lluniau trwy ddefnyddio meddalwedd bwrpasol. Premier

Creu cerddoriaeth ddigidol

Gyda Ableton Lives a GarageBand gallwch gyfansoddi cerddoriaeth drwy ddefnyddio allweddell MIDI, gitâr drydan a dewis o blith y 1000oedd o offerynnau VST- syntheseiddwyr ac ati.

Sioeau Ffilm

Gall y taflunydd a'r system amgylchsain drawsnewid Stordy Creadigol i fod yn lleoliad gwneud ffilmiau.

Argraffu 3D

Gellir trin ac argraffu dyluniadau wedi'u creu drwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD) a phrototeipiau yn ogystal â delweddau 3D wedi'u sganio.

Sganio 3D

Sganio eitem wedi torri, atgyweirio'r eitem yn ddigidol ar gyfrifiadur ac anfon y dyluniad wedi'i atgyweirio i'r argraffydd 3D.

Sut i ddod o hyd i ni

Cael cyfarwyddiadau

Hwb Gofynnwch gwestiwn