Cwestiynau Cyffredin

Beth all yr Academi Gofal ei gynnig i mi?

Mae'r cyflog yn dechrau ar y Cyflog Byw Cenedlaethol, gan gynyddu wrth i chi symud ymlaen drwy'r Academi Gofal

Talu am yr holl gymwysterau gan gynnwys y radd mewn rheoli neu'r radd gwaith cymdeithasol

Ennill arian wrth ennill profiad a chymwysterau

Talu am 10 gwers yrru i'ch helpu ar eich ffordd

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Cynllun buddion staff

….A llawer mwy!

A oes terfyn oedran?

Nid oes uchafswm oedran, ond mae angen i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn i wneud cais am y swyddi hyn. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un sy'n llawn cymhelliant, sydd ag agwedd garedig a gofalgar ac sydd am ein helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill.

Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf i ymuno?

Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gael 2 TGAU sy'n cynnwys Mathemateg, Saesneg neu Gymraeg (gradd A-D neu gymhwyster cyfatebol).

Does gen i ddim car, a oes modd i mi ymuno â'r Academi Gofal?

Oes, rydym yn cynnig talu am 10 gwers yrru i'ch helpu ar eich ffordd. Fodd bynnag, bydd angen i chi allu teithio i wahanol fannau gwaith yn y sir.

Mae gen i radd yn barod, a ydw i'n gymwys?

Ydych – rydym yn derbyn ceisiadau gan bobl sydd eisoes wedi bod drwy addysg uwch, ond ni all eich gradd fod yn yr un maes pwnc â'r cymwysterau sy'n cael eu hastudio yn yr Academi Gofal.

A oes rhaid i mi dalu'r ffioedd addysg yn ôl?

Mae'r Cyngor yn talu'n llawn am yr holl gyrsiau a chymwysterau rydych wedi cofrestru ar eu cyfer fel rhan o'r Academi Gofal. Ar ôl i chi gymhwyso yn eich maes fel rheolwr gofal cymdeithasol neu weithiwr cymdeithasol, byddwn yn gofyn i chi aros gyda ni am o leiaf dair blynedd (36 mis) ar ôl i chi gymhwyso.

Beth os nad wyf am wneud yr holl gymwysterau?

Drwy gydol eich cyfnod yn yr Academi Gofal byddwch yn cael eich cefnogi i gyrraedd eich cerrig milltir allweddol gan sicrhau y byddwch yn gallu symud ymlaen i lefel nesaf y cymhwyster. Os byddwch chi'n penderfynu ar un o'r cerrig milltir allweddol hyn nad ydych am symud ymlaen ymhellach, yna byddwn yn eich cefnogi i chwilio am swydd amser llawn.

Pam y mae'n rhaid i mi gwblhau Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol?

Mae'n rhaid i chi gwblhau Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol fel rhan o'r broses gofrestru i weithio fel gweithiwr gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn yn ofyniad gan Ofal Cymdeithasol Cymru.

Beth os na fyddaf yn llwyddo i basio lefel?

Bydd eich cynnydd yn cael ei fonitro gan eich mentor a'r coleg a fydd yn eich cefnogi yn y ffordd orau bosibl i'ch helpu i gyrraedd y cerrig milltir a chyflawni'r cymwysterau.

A ydych chi'n cefnogi pobl ag anableddau?

Ydym, rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal, gyda chymorth ar gael i'ch helpu i gyflawni eich nodau gyrfa. Bydd y coleg hefyd yn cynnig cymorth ychwanegol i'r rhai sydd ei angen.