Cyfarwyddwr Addysg, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Croeso i Sir Gaerfyrddin ‐ sy'n un o'r siroedd mwyaf diogel, mwyaf prydferth a mwyaf bywiog yng Nghymru. Yn aml caiff y sir ei disgrifio fel microcosm o Gymru; mae ganddi arfordir trawiadol, trefi marchnad hanesyddol a threfi ôl-ddiwydiannol bywiog sydd wedi'u hadfywio.
Mae Sir Gaerfyrddin yn parhau ymysg rhai o'r lleoedd mwyaf diogel i fyw yn y wlad ac mae lefelau troseddau yn isel. Ymysg yr atyniadau yn y sir mae cae rasio Ffos Las, traethau Baner Las gan gynnwys traeth euraid Cefn Sidan, nifer o gyrsiau golff, Stadiwm Parc y Scarlets, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llwybr Arfordirol y Mileniwm a'r cyfleuster Denu Twristiaid newydd sbon ar lan y môr ym Mhentywyn.
O fewn y 12 mis diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd sydyn o ran cyflawni prosiectau adfywio uchel eu proffil a fydd, drwy weithio mewn partneriaeth, yn sicrhau buddion cynaliadwy i'r gymuned ehangach, gan gynnwys adfywio a chefnogi twf economaidd Canol Trefi. Mae'r rhain yn brosiectau blaenllaw cyffrous rydym yn hynod falch ohonynt.
Mae gan ein Gwasanaethau Iechyd gynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu modelau gofal newydd a fydd yn trawsnewid ein gwasanaethau ar draws gwasanaethau acíwt a chymunedol. Mae gennym dros 9,000 o dai sy'n eiddo i'r cyngor a thrwy reolaeth ariannol ddarbodus rydym bellach yn cynllunio i adeiladu rhagor o dai i fodloni'r angen am dai lleol ac arbenigol. Rydym wrthi'n datblygu prosiect cyffrous ac uchelgeisiol gwerth miliynau o bunnoedd, sef datblygiad Pentre Awel, a fydd yn creu swyddi a thai yn ogystal â chyfleusterau ymchwil feddygol a gofal iechyd o'r radd flaenaf.
Mae ein timau ymroddedig o fewn Addysg, Plant a Theuluoedd yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod gan bob plentyn fynediad i addysg o ansawdd uchel, gofal cefnogol, a chyfleoedd ar gyfer twf. Yn Sir Gaerfyrddin, credwn fod buddsoddi yn ein pobl ifanc yn fuddsoddiad yn nyfodol ein cymuned, ac rydym wedi ymrwymo i roi'r cymorth, yr arweiniad a'r adnoddau y mae eu hangen arnynt i ffynnu.
I'r person cywir, mae hwn yn gyfle gwych o ran gyrfa. Rydym yn hynod uchelgeisiol ar gyfer Sir Gaerfyrddin a dyma'ch cyfle i ymgymryd â rôl arwain a fydd yn hanfodol i weld bwriadau da yn troi'n ganlyniadau gwych.
Am le gwych i fyw ynddo, i weithio ynddo, ac i ymweld ag ef, beth am Sir Gaerfyrddin?
Yn gywir,
Y Cynghorydd Darren Price
Arweinydd y Cyngor
Mae Sir Gaerfyrddin yn un o'r awdurdodau mwyaf yng Nghymru ac yn ymfalchïo yn ei huchelgeisiau a'i gweledigaeth strategol feiddgar. Fel un o'r cyflogwyr mwyaf yn y Sir, mae cynnal ein henw rhagorol am ddarparu gwasanaethau o'r radd flaenaf i'n trigolion a bod yn gyflogwr o ddewis yn hynod bwysig inni.
Mae'r byd wedi newid yn sylweddol yn ystod y pedair blynedd diwethaf, ond mae rhai pethau'n aros yr un fath. Cryfder mwyaf Cyngor Sir Caerfyrddin o hyd yw ei bobl. Rydym yn dal i weithio gyda'n gilydd ac yn gofalu am ein gilydd, gan ddod yn gryfach ac yn fwy gwydn nag erioed. Rydym yn dal i ymdrechu bob dydd i fod y Cyngor y mae ein cymunedau ei angen ac yn ei ddisgwyl. Eich gwaith chi yw ein helpu i ddefnyddio'r cryfderau hyn, gweld y cyfleoedd, a chanolbwyntio'n well i sicrhau y gall ein trigolion ffynnu. Pan rydym yn dweud ein bod am wneud rhagor i'n trigolion, rydym yn golygu hynny.
Mae ein hymroddiad i ragoriaeth addysgol a lles plant yn sail i bopeth a wnawn. Mae'r rôl hon wrth wraidd ein taith tuag at ragoriaeth, a byddwch yn adeiladu ar sylfeini cadarn. Yn Gyfarwyddwr Addysg, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, gan adrodd yn uniongyrchol i'r Prif Weithredwr, byddwch yn goruchwylio gwasanaethau rhagorol a fydd yn hyrwyddo lles a llwyddiant addysgol pob plentyn a pherson ifanc yn y gymuned. Mae hwn yn gyfle i ymuno ag uwch-dîm hynod gydweithredol a bod yn rhan o feddylfryd arloesol ar draws ein portffolios amrywiol a chymhleth.
Fel uwch-arweinydd profiadol, gallwch sicrhau bod newid yn digwydd. Byddwch yn nodi cyfleoedd ac yn gweithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar atebion ar draws yr holl bartneriaid a byddwch yr un mor gartrefol yn datrys problemau strategol yn ogystal â sicrhau bod gwasanaethau addysgol a gwasanaethau plant o ansawdd uchel yn cael eu darparu sy'n meithrin meddyliau ifanc ac yn cefnogi teuluoedd.
Yn gywir,
Wendy Walters
O ran lleoliad, mae Sir Gaerfyrddin yn cynnig popeth. Mae mewn lleoliad delfrydol ar hyd coridor yr M4, felly gallwch deithio i brif ddinasoedd o fewn ychydig oriau, gan gynnwys Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd, yn ogystal â Bryste, Birmingham a Llundain ymhellach i'r dwyrain - ac i'r gorllewin mae gennym gysylltiadau cystal ag Iwerddon drwy byrth Sir Benfro.
Rydym yn falch o'n harfordir hardd, o Foryd Byrri â golygfeydd dros Benrhyn Gŵyr, ar draws milltiroedd o dywod euraid a thraethau baner las, hyd at Bentywyn yn y gorllewin, sy'n enwog am ei dirwedd wastad ar gyfer rasio; a'n cefn gwlad o fryniau a phantiau sy'n ymestyn at y ffin â Sir Benfro, Ceredigion, Powys, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, yn ogystal â chyrion gorllewinol ardal hyfryd Bannau Brycheiniog.
Fel un o awdurdodau lleol mwyaf Cymru, rydym wedi arwain rhaglen buddsoddi a datblygu uchelgeisiol sydd wedi darparu gwasanaethau o'r radd flaenaf i'n trigolion, ein busnesau a'n hymwelwyr. Mae'r rhain yn cynnwys stadia chwaraeon modern a chyrsiau golff gwych, Stadiwm Parc y Scarlets, a'r Gylchffordd Gaeedig Genedlaethol ym Mhen-bre ac mae'r atyniadau diwylliannol yn cynnwys theatrau a safleoedd hamdden, megis Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Cartref Dylan Thomas, Marina Porth Tywyn, Parc Arfordirol y Mileniwm a'r cyfleuster Denu Twristiaid newydd ar lan y môr ym Mhentywyn. Felly nid oes ryfedd bod economi twristiaeth Sir Gaerfyrddin yn ffynnu, gan ddod â mwy na £434 miliwn i'r sir y llynedd a chynyddu bob blwyddyn.
Mae Sir Gaerfyrddin yn sir wirioneddol ddwyieithog ac mae mwy o siaradwyr Cymraeg yn y sir na'r un sir arall yng Nghymru (tua 40% o'n 187,900 o drigolion, yn ôl Cyfrifiad 2021). Mae'r iaith yn rhan bwysig o'n hanes a'n diwylliant, a dyna pam rydym wedi ymrwymo'n gadarn i helpu pobl i fyw, gweithio a defnyddio gwasanaethau yn eu dewis iaith, gan ddefnyddio ein Strategaeth Sgiliau Iaith i'n helpu i gyflawni Safonau'r Gymraeg. Rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau cefnogol a hyblyg i ganiatáu i'n staff ddysgu Cymraeg neu wella eu sgiliau. Os bydd angen, byddwn yn gweithio'n galed i'ch ysgogi a'ch ysbrydoli o ran eich sgiliau Cymraeg ac yn eich helpu i gyrraedd y lefel sy'n ofynnol ar gyfer y swydd hon. Gallwch ddarllen rhagor yma.
Rydym am ichi fwynhau gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac iddo roi boddhad mawr ichi. Mae ein gweithwyr wrth wraidd y gwasanaethau rydym yn eu darparu i'r gymuned ac maent yn ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau. Rydym yn cynnig gwahanol fuddiannau a threfniadau gweithio i gynorthwyo gweithwyr yn eu bywyd gwaith a’u bywyd personol. Gweld beth rydym yn ei gynnig.
Crynhoir gweledigaeth y Cyngor yn y datganiad canlynol:
Mae ein hamcanion llesiant yn canolbwyntio ar y canlynol: Galluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau'n Dda); Galluogi ein preswylwyr i fyw a heneiddio'n dda (Byw a Heneiddio'n Dda), Galluogi ein cymunedau a'n hamgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus (Cymunedau Ffyniannus), i foderneiddio a datblygu ymhellach fel Cyngor gwydn ac effeithlon (Ein Cyngor).
Darllenwch ragor yn Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor
Mae ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2022-2023 yn archwilio ein cynnydd yn erbyn y Strategaeth Gorfforaethol 2022-2027.
Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd o ran adfywio'r sir, a fydd yn cynnwys creu swyddi newydd drwy chwe phrosiect trawsnewidiol mawr, gan ddarparu economi yn Sir Gaerfyrddin sydd ar 90% o lefel GVA cyfartalog y DU. Rydym yn un o bedwar awdurdod lleol yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe gwerth £1.3b, a bydd y Fargen Ddinesig yn creu 9,000 o swyddi dros gyfnod o 15 mlynedd. Bydd Sir Gaerfyrddin yn gweld manteision economaidd enfawr o ran seilwaith digidol, gweithgynhyrchu clyfar, ynni a llesiant. At hynny, mae ein cymunedau gwledig hefyd yn rhan annatod o'n twf lleol a bydd ymyriadau newydd cyffrous, megis y fenter Deg Tref, yn adfywio'r ardaloedd hyn.
Mae gweithio'n wahanol dros y pedair blynedd diwethaf wedi dysgu llawer i ni yn Sir Gaerfyrddin, drwy fuddsoddi yn ein seilwaith digidol a thrwy weithlu talentog ac ymroddedig, rydym yn gwybod y gallwn ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwych mewn ffyrdd ystwyth, gyda llawer o staff yn gweithio o bell. Mae ein cynnig Gweithio Hybrid yn croesawu'r hyn sydd wedi'i ddysgu a hoffem groesawu ceisiadau gan bobl sydd am fwynhau'r hyn sydd gan Sir Gaerfyrddin i'w gynnig a gweithio mewn ffordd hybrid. Yn hyn o beth, mae hon yn rôl allweddol yn y cyd-destun strategol a gweithredol a bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gydbwyso gweithio hybrid â'r angen am bresenoldeb gweladwy yn y gweithle.
Mae gweinyddiaeth wleidyddol bresennol y cyngor yn cynnwys:
GRŴP PLAID CYMRU - 38
GRŴP LLAFUR – 21
GRŴP ANNIBYNNOL – 11
ANNIBYNNOL HEB GYSYLLTIAD – 5
Rydym yn cynnig cyrsiau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (SSIE), Saesneg, Mathemateg a Llythrennedd Digidol o lefel sylfaenol hyd at TGAU mewn partneriaeth â Choleg Sir Gâr. Hefyd rydym yn cynnig Cyflwyniad i Iaith Arwyddion Prydain ac ystod o weithgareddau celf a chrefft drwy gydol y flwyddyn.
Tîm Maethu Cymru Sir Gaerfyrddin yw eich darparwr maethu lleol a'ch rhwydwaith cymorth. Nid ydym yn wasanaeth maethu arferol; rydym yn llawer mwy na hynny.
Fel sefydliad nid-er-elw, rydym wedi ymrwymo i weithio fel tîm gyda gofalwyr maeth i helpu i greu dyfodol gwell i blant lleol yn Sir Gaerfyrddin. Rydym yn eu helpu i aros yn eu hamgylcheddau lleol cyfarwydd pan fydd yn iawn iddyn nhw.
Rydym yn awyddus i sicrhau bod plant yn tyfu i fyny yn rhan o deulu parhaol a chariadus nes y byddant yn oedolion. Rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ac adnoddau i helpu teuluoedd i ofalu am eu plant ond, os nad yw hyn yn bosibl, mae ein Gwasanaeth Mabwysiadu yn dod o hyd i deuluoedd eraill parhaol.
Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc 11-25 oed yn Sir Gaerfyrddin, gan gynnig y cyfle iddynt gymryd rhan yng Ngwobr Dug Caeredin, Clybiau Ieuenctid, Gweithgareddau Gwyliau, Cyfleoedd Preswyl, Amlgyfrwng, Creu Ffilm ac Animeiddio ac Addysg Awyr Agored.
Rydym hefyd yn darparu cymorth a chyfleoedd i gael mynediad i gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn awdurdod lleol uchel ei berfformiad, bywiog a blaengar sy'n ceisio gwella'n barhaus ac mae wedi ymrwymo i gynnal ei enw rhagorol am gyflwyno gwasanaethau o'r radd flaenaf. Rydym am benodi Cyfarwyddwr Addysg, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd i'n helpu i wireddu ein huchelgais.
Mae rôl y Cyfarwyddwr Addysg, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn gyfle gwych i ymuno â Chyngor sydd am fod yn arloesol o ran y ffordd mae'n darparu gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion plant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Rydym yn chwilio am arweinydd modern, ysbrydoledig a chynhwysol sy'n creu amgylchedd cadarnhaol lle gall pawb fod yn nhw eu hunain a chyflawni eu potensial.
Yng Nghyngor Sir Caerfyrddin, rydym yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau cydlynol, modern ac effeithiol. Felly, drwy fod yn rhan o un o'r Cynghorau Sir mwyaf yng Nghymru, byddwch nid yn unig yn mwynhau'r her, ond hefyd yn mwynhau cael effaith gadarnhaol.
Mae Sir Gaerfyrddin yn cynnig dull integredig o ran addysg a gwasanaethau ar gyfer plant a theuluoedd sy'n:
Mae'r rôl hon wrth wraidd ein taith tuag at gynnal a sicrhau rhagoriaeth ym mhob maes ymarfer, trwy adeiladu ar sylfeini cadarn. Gan arwain tîm o arbenigwyr, byddwch yn hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc ac yn anelu at ragoriaeth, tegwch a chynhwysiant, gan hyrwyddo gwelliant parhaus a chanlyniadau cadarnhaol i bawb.
Fel Cyfarwyddwr, byddwch yn rhoi cyngor o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau i'r Prif Weithredwr, y Cabinet, y Tîm Rheoli Corfforaethol, y Swyddogion, y Penaethiaid, y Llywodraethwyr a'r Aelodau Etholedig. Bydd yn ofynnol ichi arwain adran integredig gymhleth sy'n darparu nifer o wasanaethau allweddol ar ran y Cyngor, gan lunio datblygiad addysg a gwasanaethau plant a theuluoedd yn y dyfodol, ynghyd â darparu cyfeiriad strategol cryf, arweinyddiaeth arloesol, a goruchwyliaeth weithredol i sicrhau darpariaeth addysgol o ansawdd uchel a gwasanaethau cynhwysfawr i'n plant, ein pobl ifanc a'n dysgwyr gydol oes.
Byddwch yn fedrus yn meithrin perthynas ag eraill ac yn esiampl dda o ran uniondeb personol a phroffesiynol, a bydd gofyn ichi ennill ymddiriedaeth a pharch pawb rydych yn dod ar eu traws, a hynny'n gyflym – o fewn y Cyngor a thu hwnt.
Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Os felly, bydd gennych lawer o egni a phenderfyniad, a phrofiad llwyddiannus o arwain a rheoli'n strategol o fewn sefydliad a chanddo sawl swyddogaeth ac sy'n debyg o ran cwmpas a chymhlethdod. Yn bwysicaf oll, byddwch yn gwybod beth yw gwasanaethau o'r radd flaenaf a sut i helpu staff, Llywodraethwyr ac Aelodau i gyflawni'r safonau hyn o fewn amgylchedd sy'n gofyn llawer.
Dyddiad cau: 31 Mai 2024 Canol dydd
Llunio Rhestr Fer: 10 Mehefin 2024
Y Ganolfan Asesu: 26 Mehefin 2024
Y Panel Penodi: 2 Gorffennaf 2024
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Wendy Walters, Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin drwy ffonio 01267 224110
Mwy ynghylch Swyddi a Gyrfaoedd1