Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes

1. Cyflwyniad

Yn dilyn cynllun peilot Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes Sir Gaerfyrddin, mae Cyngor Sir Caerfyrddin bellach wedi cyflwyno ail gam o'r cynllun fydd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy gyfrwng y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Mae'r Gronfa yn gynllun grant busnes, a sydd yn darparu cymorth cyfalaf i fusnesau tuag at brynu systemau ynni adnewyddadwy ar gyfer eu safleoedd busnes.

Nod y gronfa yw helpu busnesau lleol i fod yn gynaliadwy yn ystod y cyfnod heriol hwn, a rhoi cymorth iddynt dyfu a ffynnu a'u helpu ar eu taith tuag at ddod yn garbon sero net.