Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes
Yn yr adran hon
13. Sut Mae Gwneud Cais
-
1
Cyn i ni ofyn i chi wneud cais llawn, bydd angen i chi gyflwyno mynegiant o ddiddordeb sy'n amlinellu eich cynnig busnes a'ch costau. Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch:
- Eich manylion
- Manylion busnes a disgrifiad o'i brif weithgaredd
- Costau arwyddol y prosiect
- Manylion unrhyw gyllid / arian ychwanegol
-
2
Ar ôl i ni dderbyn eich mynegiant o ddiddordeb, byddwn yn gwirio os yw eich busnes arfaethedig yn gymwys i gael cefnogaeth drwy'r gronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes. Byddwn yn rhoi gwybod i chi o fewn 7-10 diwrnod gwaith os yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus yn y cam cyntaf.
-
3
Os bydd eich cais mynegiant o ddiddordeb yn llwyddiannus, byddwn yn gofyn i chi gwblhau cais llawn. Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch:
- 2 flynedd o gyfrifon hanesyddol
- Prawf o arian cyfatebol
- Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru (wedi'i gwblhau)
- Caniatâd Statudol yn cynnwys
- Dyfynbrisiau ar gyfer eitemau rydych yn bwriadu eu prynu gan ddefnyddio arian o'r grant. Rhaid i chi ddilyn y rheolau caffael a amlinellir yn yr adran hon.
- Ydymffurfiad gyda safonau'r iaith Gymraeg. (Mi fydd hwn yn cael ei asesu yn eich ffurflen gais)
- Polisi Amgylcheddol – Mae angen i chi egluro sut y byddwch yn gweithredu arferion sy'n gydnaws â'r amgylchedd er mwyn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd wrth weithredu eich busnes. Byddem hefyd yn eich annog i gytuno i Addewid Twf Gwyrdd Llywodraeth Cymru. https://businesswales.gov.wales/cy/addewid-twf-gwyrdd
Byddwn yn e-bostio ffurflen gais gan defnyddio’r wybodaeth gyswllt a roddwyd gennych yn eich mynegiant o ddiddordeb. Bydd eich cais yn cael ei roi i aelod o'n tîm, a fydd yn cysylltu â chi os yw'n anghyflawn neu os oes angen gwybodaeth ychwanegol.
Ystyrir ceisiadau wedi'u cwblhau'n llawn ar sail y cyntaf i’r felin nes bod y gronfa wedi'i dyrannu'n llawn, dylech gwblhau hyn cyn gynted ag y bo modd.
Rydym yma i helpu, anfonwch e-bost at: CYAB@sirgar.gov.uk os hoffech i ni fynd drwy eich cais gyda chi.
-
4
Bydd pob cais yn cael ei asesu gan banel sy'n cynnwys swyddogion o'r Awdurdod cyn i'r Pennaeth Adfywio ei gymeradwyo'n derfynol. Mi fydd ceisiadau am grantiau dros £10,000 yn cael ei allgyfeirio i'r aelod cabinet i gadarnhau
Bydd eich cais yn cael ei asesu yn erbyn:
- hyfywedd y busnes
- eich arbedion carbon
- gwerth am yr arian am y swm o arian grant a ddyfernir
-
5
Byddwn yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad terfynol eich cais yn dilyn adolygiad y panel. Os bydd eich cais yn llwyddiannus a'ch bod yn derbyn cyllid, byddwn yn anfon telerau ac amodau'r grant atoch drwy e-bost. Rhaid i chi dderbyn y telerau hyn o fewn 30 diwrnod.
Mae angen i chi brynu'r eitemau sydd wedi'u cynnwys yn eich cais a chyflwyno ffurflen hawlio o fewn 4 mis i dderbyn eich cymeradwyaeth derfynol a thelerau'r grant. Os oes angen mwy o amser arnoch i wneud hyn neu os ydych wedi newid unrhyw un o'r eitemau/cyflenwyr a restrir yn eich cais, bydd angen i chi ofyn am estyniad neu wyriad.
-
6
I ofyn am i'r cyllid gael ei dalu, bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:
- anfoneb / derbynneb taliad
- datganiad banc yn dangos y taliadau sy'n cael eu gwneud i'r cyflenwr
- lluniau o'r eitemau
- manylion banc
Cofiwch na allwch ddefnyddio arian grant ar gyfer eitemau a brynir:
- ag arian parod
- ar ffurf prynu prydlesi, hurbrynu, cytundebau credyd estynedig/prydlesi cyllid
-
7
Mae angen i chi brynu'r eitemau sydd wedi'u cynnwys yn eich cais a chyflwyno ffurflen hawlio o fewn 4 mis i dderbyn eich cymeradwyaeth derfynol a thelerau'r grant. Os na allwch wneud hyn am unrhyw reswm, bydd angen i chi ofyn am estyniad. Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch:
- Y rheswm pam mae angen estyniad arnoch
- Y dyddiad y byddwch yn gallu prynu eitemau a chyflwyno'ch ffurflen hawlio
-
8
Os byddwch yn newid unrhyw un o'r eitemau neu'r cyflenwyr y manylir arnynt yn eich cais, rhaid i chi roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl. Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch:
- Eitemau/cyflenwyr yr ydych yn eu newid, a'r rheswm pam yr ydych wedi penderfynu gwneud hyn
- Eitemau / cyflenwyr a chostau newydd
- Dyfynbrisiau newydd, darllenwch reolau caffael am arweiniad.
Peidiwch â phrynu unrhyw eitemau hyd nes eich bod wedi cael cymeradwyaeth, byddwn yn gwneud penderfyniad o fewn 3-5 diwrnod gwaith.
-
9
Ar ôl i ni dderbyn eich ffurflen hawlio, byddwn yn gwirio eich bod wedi cydymffurfio â thelerau'r grant. Os bydd angen unrhyw wybodaeth ychwanegol arnom cyn y gallwn ryddhau'r arian, byddwn yn rhoi gwybod i chi. Byddwn yn anfon e-bost atoch i roi gwybod i chi pan fydd eich hawliad wedi'i gymeradwyo.
Gall gymryd hyd at 20 diwrnod gwaith o'r adeg y byddwn yn derbyn eich ffurflen gais i gwblhau'r asesiad hwn a threfnu bod taliad yn cael ei wneud i'ch cyfrif banc.
-
10
Byddwn yn monitro eich busnes a’r allbynnau yn ffurfiol ac yn gofyn am dystiolaeth ym mlwyddyn 1, 3 a 5.