Sut mae bod yn Gynghorydd

Diweddarwyd y dudalen ar: 03/04/2024

Sefyll fel ymgeisydd

Rhaid i ymgeisydd sydd am gael ei ethol gwblhau cyfres o bapurau enwebu y mae'n rhaid i'r ymgeisydd eu llofnodi ym mhresenoldeb tyst ac mae'n rhaid i'r tyst ardystio'r llofnod. Bydd papurau enwebu ar gael yn ystod yr wythnos yn dilyn lan i'r etholiadau ar wefan y Comisiwn Etholiadol: https://www.electoralcommission.org.uk/cy

Wedyn mae angen ichi ennill y mwyafrif o'r pleidleisiau a gaiff eu bwrw. Mae nifer y pleidleisiau y mae ei angen arnoch i ennill yn dibynnu ar yr adran etholiadol lle rydych yn dewis sefyll mewn etholiad. Ceir dau neu dri aelod mewn rhai adrannau etholiadol.

Bydd pecynnau enwebu ar gael ar ddechrau 2027. Os hoffech fynegi diddordeb, cysylltwch â'r Gwasanaethau Etholiadol drwy ffonio 01267 228609.

Os ydych yn ystyried sefyll fel ymgeisydd ar gyfer plaid wleidyddol benodol, dylech yn gyntaf gysylltu â grŵp lleol y blaid honno. Os ydych yn bwriadu sefyll mewn etholiad fel Cynghorydd annibynnol, cysylltwch â ni a fyddwn yn falch o gael rhoi rhagor o wybodaeth ichi.

Mae cynghorwyr yn derbyn cyflog a bennir yn flynyddol gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol , a gallant hefyd hawlio costau teithio a chynhaliaeth (telir cynhaliaeth am brydau bwyd a llety ‘y tu allan i’r sir’ yn unig) wrth ymgymryd â dyletswyddau swyddogol. Gall cynghorwyr hefyd hawlio ad-daliad o'u costau gofal, ar gyfer gweithgareddau a chymorth personol er mwyn iddynt gyflawni eu dyletswyddau  cymeradwy.

Wnaeth Llywodraeth Cymru cyllido cynllun peilot er mwyn ariannu addasiadau a chymorth rhesymol ar gyfer ymgeiswyr anabl yn etholiadau Llywodraeth Leol 2022.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am lwfansau trwy glicio ar dudalen we Panel Cydnabyddiaeth Annibynnol Cymru canlynol:-

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

 

Mae'r Cyngor yn cynnwys 75 o Gynghorwyr etholedig sy'n cynrychioli 51 o Wardiau Etholiadol. Fel arfer mae'r Cyngor yn cwrdd yn fisol ac mae ganddo restr o swyddogaethau gan gynnwys mabwysiadu a newid y Cyfansoddiad, cymeradwyo a mabwysiadu'r Fframwaith Polisi a'r Gyllideb, penodi'r Arweinydd, a phenderfynu a chytuno ar Bwyllgorau a'u cylch gorchwyl. Gellir gweld rhestr lawn o swyddogaethau'r Cyngor yn Rhan 2 o Gyfansoddiad y Cyngor yn Erthygl 4: Y Cyngor Llawn.

Mae hyd at ddeg o aelodau'r Cyngor yn rhan o'r Cabinet, gan gynnwys Arweinydd y Cyngor. Mae'r Cabinet yn gyfrifol am gyflawni holl swyddogaethau'r awdurdod lleol nad yw'r Cyngor yn gyfrifol amdanynt. Mae'r Aelodau o'r Cabinet yn gyfrifol am wneud penderfyniadau o fewn meysydd diddordeb penodol, a elwir yn bortffolios. 

Mae'r Pwyllgorau Craffu yn ymddwyn fel 'cyfaill beirniadol' i'r Cabinet ac i eraill sy'n gwneud penderfyniadau er mwyn hyrwyddo gwasanaethau, polisïau a phenderfyniadau gwell. Gan weithio mewn ffordd debyg i bwyllgorau dethol seneddol, mae'r pwyllgorau craffu'n cynnwys cynghorwyr nad ydynt yn y Cabinet.

Y Pwyllgorau Cynllunio, Archwilio a Thrwyddedu sy'n gwneud penderfyniadau rheoleiddio'r Cyngor a'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd sy'n adolygu digonolrwydd darpariaeth yr Awdurdod o ran cyflawni swyddogaeth y gwasanaethau democrataidd. Hefyd ceir Pwyllgor Safonau i hyrwyddo safonau uchel o ymddygiad ac i helpu Cynghorwyr i gydymffurfio â'r Côd Ymddygiad.

Mae gan Gynghorwyr hawl i gyflog sylfaenol. (Bydd y cyflog sylfaenol yn 2023/24 ar gyfer aelodau etholedig o Brif Gynghorau yn £17,600). Caiff cyflogau uwch a lwfansau/treuliau eraill eu talu yn unol â'r rolau a'r cyfrifoldebau a allai fod gennych yn dilyn cael eich ethol. Gellir cael rhagor o wybodaeth am daliadau drwy glicio ar y ddolen ganlynol: Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. 

Ar ôl cael eu hethol, disgwylir i Gynghorwyr fynychu gwahanol sesiynau hyfforddiant a datblygu yn ystod eu cyfnod yn y swydd. Darperir sesiwn sefydlu i'r holl Gynghorwyr newydd a'r rhai sy'n dychwelyd yn ystod eu 12 mis cyntaf yn y swydd, a chaiff hyfforddiant pellach ei roi'n barhaus drwy ddigwyddiadau datblygu'r aelodau.

Os cewch eich ethol, dylech fod yn barod i neilltuo'r pythefnos cyntaf ar ôl yr etholiad ar gyfer y Sesiynnau Sefydlu aelodau ym mis Mai/Mehefin 2027.

Disgwylir i Gynghorwyr fynychu cyfarfodydd a phwyllgorau ac mae rheidrwydd arnynt i gadw at Gôd Ymddygiad y Cynghorwyr.

Fel cynrychiolwyr lleol, mae cyfrifoldebau gan gynghorwyr tuag at eu hetholwyr a'u sefydliadau lleol. Yn aml mae'r cyfrifoldebau a'r dyletswyddau hyn yn dibynnu ar yr hyn mae'r Cynghorydd am ei gyflawni a faint o amser sydd ar gael, a gallant gynnwys: mynychu cyfarfodydd cyrff llywodraethu ysgolion yn ei ward, mynychu cyfarfodydd sefydliadau lleol fel cymdeithasau tenantiaid a chyrff sy'n effeithio ar y gymuned ehangach, codi materion ar ran y cyhoedd, cynnal cymorthfeydd y gall trigolion godi materion ynddynt, a chwrdd â thrigolion yn unigol yn eu cartrefi eu hunain.

Ar gyfartaledd amcangyfrifir bod Cynghorwyr yn treulio'r hyn sy'n cyfateb i dri neu bedwar diwrnod yr wythnos ar waith y Cyngor. Yn amlwg, mae rhai Cynghorwyr yn treulio mwy o amser na hyn tra bo eraill yn treulio llai.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi llunio Byddwch yn Gynghorydd Sicrhewch mai chi yw'r Newid ar y cyd ag awdurdodau lleol, sy'n ganllaw defnyddiol i ddarpar ymgeiswyr.

Mae'r Uned Gwasanaethau Democrataidd yn gweinyddu cyfarfodydd y Cyngor ac yn darparu gwasanaeth cymorth penodedig, gan roi cyngor am y gyfraith a'r arferion sy'n perthyn i gyfarfodydd i Gynghorwyr, swyddogion, a'r cyhoedd, a chan roi cymorth i'r holl Gynghorwyr ag ymholiadau a cheisiadau yn ymwneud â gweinyddiaeth.

Ar ôl i Gynghorwyr gael eu hethol, rhoddir llechen, cyfrifiadur côl a chyfeiriad e-bost @ sirgar.gov.uk iddynt ac  mae'n rhaid eu defnyddio wrth gynnal busnes y Cyngor. Mae holl gyfarfodydd y Cyngor yn ddi-bapur, ac argymhellir bod pob ymgeisydd yn gallu defnyddio TG.

Mae'r Cyngor yn Awdurdod dwyieithog, ac, fel Cynghorydd, byddwch yn gallu gweithredu yn eich dewis iaith, boed honno y Gymraeg neu'r Saesneg, ac mae cyfleusterau cyfieithu ar gael ym mhob un o gyfarfodydd y Cyngor er mwyn hwyluso hyn.  Hefyd mae hyfforddiant Cymraeg ar gael i unrhyw Gynghorwyr sy'n dymuno dysgu'r iaith.

Ymrwymodd y Cyngor i fod yn Gyngor amrywiol ym mis Gorffennaf 2021 ac mae wedi cytuno ar y cynllun gweithredu canlynol i hyrwyddo Amrywiaeth yn Sir Gaerfyrddin.

Amcan 1: Cynyddu dealltwriaeth o wahanol haenau o lywodraeth yng Nghymru, y rôl sydd gan bob un mewn cymdeithas, a sut maent yn gweithredu.

Beth rydym wedi'i wneud/yn anelu at ei wneud:-

Dosbarthu a hyrwyddo canllawiau/adnoddau addysgol Llywodraeth Cymru i gyd-fynd ag ymestyn i bobl ifanc 16 a 17 oed yng Nghymru.

  • Erbyn pryd: Adnoddau wedi'u datblygu gan Lywodraeth Cymru ac wedi'u dosbarthu i ysgolion
  • Swyddog(ion) fydd yn arwain: Rheolwr Etholiadau/Tîm Cyfathrebu

Trosolwg o dudalen gwefan y Cyngor sy'n cynnwys y dudalen 'Sut mae bod yn Gynghorydd' i'w hadolygu a'i hyrwyddo.

  • Erbyn pryd: Ar waith
  • Swyddog(ion) fydd yn arwain: Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd/Rheolwr Etholiadau

Cynnal ymgyrch gyfathrebu gyda negeseuon cyffredinol a negeseuon wedi'u targedu. Byddwn yn canolbwyntio'n benodol ar Fenywod, Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Pobl Anabl, LGBTQ+ a Phobl Ifanc.

  • Erbyn pryd: Ar waith
  • Swyddog(ion) fydd yn arwain: Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd/Rheolwr Etholiadau

Gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol a sefydliadau cynrychioliadol i sicrhau bod dinasyddion cymwys yn ymwybodol o'u hawl i bleidleisio mewn rhai etholiadau a'u hawl i sefyll fel Ymgeisydd mewn rhai etholiadau.

  • Erbyn pryd: Ar waith
  • Swyddog(ion) fydd yn arwain: Rheolwr y Gwasanaethau Etholiadol

Amcan 2: Cynyddu ymgysylltiad â'r cyhoedd er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o rôl a gweithgareddau'r Cyngor, a sut gall y cyhoedd lywio penderfyniadau lleol yn well.

Beth rydym wedi'i wneud/yn anelu at ei wneud:-

Hyrwyddo Canllaw Cyfansoddiad y Cyngor yn unol â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Mae Cyfansoddiad llawn y Cyngor ar gael yma.

  • Erbyn pryd: Ar waith ac yn barhaus
  • Swyddog(ion) fydd yn arwain: Swyddog Monitro/Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd

Datblygu Cynllun Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd ar gyfer cydymffurfio â dyletswydd o dan Ddeddf 2021, a fydd yn cysylltu â'r Strategaeth Ymgynghori ac Ymgysylltu (Disgwylir Canllawiau Llywodraeth Cymru).

  • Erbyn pryd: Ar waith ac yn barhaus
  • Swyddog(ion) fydd yn arwain: Swyddog Monitro/Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd

Cyflwyno cynllun deiseb a chyfleuster e-ddeiseb ar wefan yr Awdurdod.

  • Erbyn pryd:  Ar waith ac yn barhaus
  • Swyddog(ion) fydd yn arwain: Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd

Parhau i:

  1. We-ddarlledu cyfarfodydd fel y nodir o dan Ddeddf 2021,
  2. Darparu cyfleusterau i'r cyhoedd gyflwyno sylwadau/gofyn cwestiynau yn y Cyngor/Pwyllgorau yn bersonol neu drwy bresenoldeb o bell
  • Erbyn pryd: Ar waith
  • Swyddog(ion) fydd yn arwain: Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd

Annog pob Grŵp Gwleidyddol i greu Hyrwyddwr Amrywiaeth i sicrhau bod Cynghorwyr o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu cynrychioli lle bynnag y bo modd mewn swyddi proffil uchel, dylanwad uchel.

  • Erbyn pryd: Ar waith ac yn barhaus
  • Swyddog(ion) fydd yn arwain: Arweinydd Grŵp Gwleidyddol/Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd

Amcan 3: Cynyddu ymwybyddiaeth o rôl Cynghorwyr, eu cyfraniad i gymdeithas, a sut i ddod yn Gynghorydd.

Beth rydym wedi'i wneud/yn anelu at ei wneud:-

Trosolwg o dudalen gwefan y Cyngor yn cynnwys tudalen 'Sut mae bod yn Gynghorydd' i gael ei hadolygu a'i hyrwyddo ac i gynnwys cyfeiriadau at:-

  1. Beth mae bod yn Gynghorydd yn ei olygu.
  2. Cyflog a Lwfansau.
  3. Hyrwyddo / hwyluso prosesau.
  4. Hyfforddiant sydd ar gael i Gynghorwyr.

Dolen i unrhyw hyfforddiant/deunyddiau addysgiadol sydd ar gael gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Llywodraeth Cymru ac ati.

  • Erbyn pryd: Ar waith ac yn barhaus
  • Swyddog(ion) fydd yn arwain: Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd/Rheolwr Marchnata a'r Cyfryngau

Ymgysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned i hyrwyddo'r dudalen 'Sut mae bod yn Gynghorydd' neu greu eu un eu hunain.

  • Erbyn pryd: Ar waith ac yn barhaus
  • Swyddog(ion) fydd yn arwain: Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned/Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd/Marchnata a'r Cyfryngau

Ceisio cyfranogiad Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol i hyrwyddo'r disgwyliadau amrywiaeth o fewn prosesau dethol eu Pleidiau Gwleidyddol. Annog Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol i hyrwyddo'r cyngor sydd ar gael i ddarpar ymgeiswyr neu unigolion sy'n ystyried sefyll mewn etholiad cyn gynted â phosibl.

  • Erbyn pryd: At waith ac yn barhaus
  • Swyddog(ion) fydd yn arwain: Prif Weithredwr/Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd

Amcan 4: Mwy o barch a chefnogaeth i'r rhai sy'n sefyll ac sy'n sicrhau swydd etholedig yng Nghymru.

Beth rydym wedi'i wneud/yn anelu at ei wneud:-

Hyrwyddo'r ddyletswydd sydd ar Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol i hyrwyddo safonau ymddygiad uchel.

  • Erbyn pryd: Ar waith ac yn barhaus
  • Swyddog(ion) fydd yn arwain: Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol/Swyddog Monitro

Angen i bob Cynghorydd ac Aelod Cyfetholedig gael Hyfforddiant Côd Ymddygiad gorfodol. Hyfforddiant gloywi o leiaf unwaith yn ystod cyfnod y swydd a hefyd os caiff y Côd ei ddiwygio. Y Pwyllgor Safonau i fonitro cydymffurfiaeth mewn perthynas â safonau ymddygiad a darparu hyfforddiant.

  • Erbyn pryd: Ar waith ac yn barhaus
  • Swyddog(ion) fydd yn arwain: Swyddog Monitro/Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd

Hyrwyddo cronfa Llywodraeth Cymru ar gyfer Mynediad i Swyddfa Etholedig i gynorthwyo pobl anabl i sefyll ar gyfer swydd etholedig yn Etholiadau Lleol 2022.

  • Erbyn pryd: Parhaus - Mae neges Cyfathrebu eisoes wedi'i dosbarthu
  • Swyddog(ion) fydd yn arwain: Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol/Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd

Amcan 5: Rhaglen hyfforddiant ac ymwybyddiaeth gynhwysfawr ar gael drwy amrywiaeth o lwybrau sydd ar gael i Gynghorwyr i'w cefnogi yn eu rôl fel Cynghorwyr.

Beth rydym wedi'i wneud/yn anelu at ei wneud:-

Adolygu'r Rhaglen Sefydlu Aelodau a'r Rhaglen Datblygu Aelodau barhaus. Annog yr Aelod i fynychu pob sesiwn hyfforddi, E-Ddysgu a defnyddio Deunyddiau Hyfforddiant Cymru Gyfan ar gyfer Cynghorwyr - dan arweiniad CLlLC.

  • Erbyn pryd: Ar waith ac yn barhaus
  • Swyddog(ion) fydd yn arwain: Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd/Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd/Ymgynghorydd Dysgu a Datblygu

Annog Cynghorwyr sy'n dychwelyd i fentora/cysgodi Cynghorwyr sy'n gwneud y gwaith am y tro cyntaf ac i'r rhai sy'n gofyn am hynny, a chynnal Adolygiadau Datblygiad Personol ar gyfer eu haelodau gyda chymorth Dysgu a Datblygu, yn ôl y gofyn.

  • Erbyn pryd: Parhaus
  • Swyddog(ion) fydd yn arwain: Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol/Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd/Ymgynghorydd Dysgu a Datblygu

Amcan 6: Gwella diogelwch Cynghorwyr a'u teuluoedd wrth ymgymryd â'u dyletswyddau Cyngor.

Beth rydym wedi'i wneud/yn anelu at ei wneud:-

Cydymffurfio â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 drwy sicrhau bod cyfeiriadau swyddogol yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor ac yn y Gofrestr Buddiannau.

  • Erbyn pryd: Ar waith ac yn barhaus
  • Swyddog(ion) fydd yn arwain: Swyddog Monitro/Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd

Yn cynnwys hyfforddiant Diogelwch Personol a Gweithio ar eich pen eich hun yn y rhaglen sefydlu Aelodau Newydd i sicrhau diogelwch aelodau.  Hyrwyddo'r Polisi Gweithio ar eich pen eich hun a chanllawiau.

  • Erbyn pryd: Ar waith ac yn barhaus
  • Swyddog(ion) fydd yn arwain: Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd/Ymgynghorydd Dysgu a Datblygu

Pob Cynghorydd i gael cardiau adnabod i ganiatáu mynediad diogel i adeiladau'r Cyngor

  • Erbyn pryd: Ar waith
  • Swyddog(ion) fydd yn arwain: Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd

Hyfforddiant Diogelwch Cyfryngau Cymdeithasol i'w gyflwyno i aelodau drwy'r Rhaglen Sefydlu Cynghorwyr ac adeiladu ar hynny yn ystod eu cyfnod yn y swydd.

  • Erbyn pryd: Ar waith ac yn barhaus
  • Swyddog(ion) fydd yn arwain: Rheolwr Marchnata a'r Cyfryngau

Hyrwyddo gwasanaeth cyngor a chymorth y CLlLC i Gynghorwyr unigol sy'n cael eu cam-drin ar-lein.

  • Erbyn pryd: Ar waith ac yn barhaus
  • Swyddog(ion) fydd yn arwain: Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd

Amcan 7: Manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i unigolion weithio mewn ffyrdd sy'n eu galluogi i sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith sy'n diogelu eu lles a'u llesiant ac sy'n eu galluogi i reoli unrhyw berthynas ofalu/dibyniaeth.

Beth rydym wedi'i wneud/yn anelu at ei wneud:-

Cyflwyno Polisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad sy'n annog presenoldeb o bell a phresenoldeb corfforol mewn cyfarfodydd.

  • Erbyn pryd: Ar waith ac yn barhaus
  • Swyddog(ion) fydd yn arwain: Swyddog Monitro/Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd

Cydymffurfio â gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 mewn perthynas â hyrwyddo rhannu swyddi gan Arweinwyr Gweithredol a deiliaid Swyddi eraill.

  • Erbyn pryd: Diwygiwyd y cyfansoddiad ym mis Mai 2021 ac mae hynny'n parhau wrth i elfennau o'r Ddeddf ddod i rym
  • Swyddog(ion) fydd yn arwain: Swyddog Monitro/Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd

Hyrwyddo:

  1. Darpariaethau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Cynghorwyr.
  2. Lwfansau a Chyfraniad Tuag at y Costau Gofal a Chymorth Personol sydd ar gael i Gynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig fel y bo'n briodol.
  3. Hawlio lwfansau a threuliau
  • Erbyn pryd: Parhaus
  • Swyddog(ion) fydd yn arwain: Swyddog Monitro/Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd

Adolygu amserau cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet a Phwyllgorau i sicrhau hyblygrwydd i fod yn gyfleus i Aelodau'r Pwyllgor.

  • Erbyn pryd: Ar waith ac yn barhaus
  • Swyddog(ion) fydd yn arwain: Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd

Amcan 8: Asesu effeithiolrwydd y darpariaethau ym Mesur 2011 mewn perthynas â chasglu data, ac mewn perthynas â data arall am ymgeiswyr y gellid ei gasglu er mwyn i Bleidiau Gwleidyddol gefnogi ymgeiswyr amrywiol mewn etholiadau.

Beth rydym wedi'i wneud/yn anelu at ei wneud:-

Cynnal arolwg amrywiaeth a chynhwysiant gydag Aelodau a fydd yn darparu meincnod ar gyfer etholiadau yn y dyfodol ac yn caniatáu adborth i Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol.

  • Erbyn pryd: Parhaus
  • Swyddog(ion) fydd yn arwain: Tîm Polisi/Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd

Cyngor a Democratiaeth