Addysg Blynyddoedd Cynnar yn Sir Gaerfyrddin

Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.

Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.

Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol

Wrth ddarparu gwasanaeth addysg blynyddoedd cynnar, mae'r Cyngor a darparwyr gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar yn gyfrifol ar y cyd am y data personol a ddefnyddiwn amdanoch chi a'ch plentyn.

O dan y Ddeddfwriaeth Diogelu Data rydym felly yn cael ein hystyried yn ‘gyd-reolwyr data’.

Mae'r Cyngor a darparwyr gwasanaeth y Blynyddoedd Cynnar yn gyfrifol am:

  • Brosesu data personol yn gyfreithlon
  • Rhoi gwybod i chi at ba ddibenion y maent yn defnyddio eich data personol, megis Hysbysiadau Preifatrwydd
  • Diogelu eich gwybodaeth
  • Sicrhau y gallwch arfer eich hawliau o dan y Ddeddfwriaeth Diogelu Data

Mae casglu gwybodaeth am blant unigol yn hanfodol i sicrhau bod y ddarpariaeth addysg a'r gwasanaeth a gynigir o'r ansawdd uchaf, yn bwrpasol ac yn ymatebol i anghenion eich plentyn.
Bydd y wybodaeth yr ydym yn ei chasglu amdanoch chi a'ch plentyn yn y cais ac yn ystod y cyfnod gwasanaeth yn cael ei defnyddio at y dibenion canlynol yn unig:

  • Prosesu'ch cais am gyllid blynyddoedd cynnar ac i ddarparu cyllid
  • Monitro safonau darpariaeth a chynnydd dysgu plant
  • Nodi meysydd y mae angen eu gwella ledled y Sir, er enghraifft, llafaredd, rhifedd, gwybodaeth gorfforol i fwydo strategaethau gwella
  • Cynllunio'n strategol i sicrhau bod cefnogaeth berthnasol yn cael ei darparu i bob lleoliad yn unol ag anghenion plant unigol
  • Mesur effeithiolrwydd y ddarpariaeth a'r gefnogaeth a ddarperir gan y Cyngor
  • Dylunio rhaglen hyfforddi briodol yn unol ag anghenion darparwyr gwasanaeth y Blynyddoedd Cynnar a'u plant
  • Sicrhau bod cyllid cyhoeddus a grantiau yn cael eu defnyddio'n bwrpasol yn ôl yr angen e.e. anghenion llythrennedd
  • Nodi a darparu ymyrraeth gynnar i gefnogi Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Gwella a hwyluso cyfathrebu yn ystod cyfnodau pontio.

Mae Adran 118(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 am i awdurdodau lleol sicrhau darpariaeth ddigonol o ran addysg feithrin ran-amser ac amser llawn i blant yn eu hardal nad ydynt wedi dod i oedran ysgol gorfodol. Felly, y sail gyfreithlon ar gyfer casglu a defnyddio'r data personol hwn yw bod ei angen arnom i arfer ein hawdurdod i ddarparu addysg blynyddoedd cynnar ran-amser i blant.

2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?

Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn:

Amdanoch chi:

  • Eich cyfeiriad e-bost
  • Eich teitl, eich enw cyntaf a'ch cyfenw
  • Eich cyfeiriad cartref

Amdanoch plentyn:

  • Enw eich plentyn
  • Cyfeiriad eich plentyn
  • Dyddiad geni eich plentyn
  • Manylion y lleoliad a ddewiswyd a nifer yr oriau o gyllid y gwnaed cais amdanynt
  • Manylion yr ysgol y gwnaed cais iddi am addysg amser llawn
  • Iaith eich cartref
  • Cofnod presenoldeb eich plentyn
  • Cyrhaeddiad dysgu eich plentyn

Rydym hefyd yn casglu manylion am anghenion meddygol neu anghenion dysgu pan fo angen.
Rydym yn defnyddio'r math hwn o ddata personol i arfer ein rhwymedigaethau o dan y ddeddfwriaeth y cyfeirir ati uchod.

3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

Rydym fel arfer yn casglu data personol yn uniongyrchol wrthych chi.

Fodd bynnag, mae gwasanaeth addysg blynyddoedd cynnar yn derbyn rhywfaint o wybodaeth gan y darparwr gwasanaeth blynyddoedd cynnar, yn benodol data personol am lesiant eich plentyn, ei bresenoldeb a'r cynnydd mae'n ei wneud.

Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio rhai manylion o'n cronfa ddata ysgolion (Canolfan Athrawon) yr ydych wedi'u darparu o'r blaen yn eich cais am addysg amser llawn.

4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Rydym hefyd yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu eich gwybodaeth. Caiff y data personol hwn ei gadw ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE lle mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn berthnasol.  Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU.

5. Pwy all weld eich gwybodaeth?

Rydym yn rhannu data personol dim ond pan fydd angen i ni wneud hynny ac ym mhob achos, rydym yn darparu cyn lleied o ddata ag sydd ei angen.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn rhannu'r wybodaeth hon â'r lleoliad nas cynhelir yr ydych wedi gwneud cais iddo er mwyn prosesu'r ddarpariaeth cyllid. Byddwn hefyd yn rhannu'r wybodaeth hon gyda'r ysgol rydych chi wedi gwneud cais iddi am addysg amser llawn.

Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â Llywodraeth Cymru ar lefel ystadegol pan fo angen.

Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:

  • Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth
  • Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw

6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth

Byddwn yn cadw'r data personol am 18 mlynedd o ddyddiad geni eich plentyn.

7. Eich hawliau o ran Diogelu Data

Mae gennych hawl i:

  • Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
  • Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
  • Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
  • Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:

  • Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
  • Dileu eich data personol
  • Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Hygludedd data

8. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk

Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyngor a Democratiaeth