Gwasanaeth Cronfa Cynorthwywyr Personol (Taliadau Uniongyrchol)

Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.

Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.

Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir gennych er mwyn darparu'r gwasanaeth Cronfa Cynorthwywyr Personol. 

Felly bydd y data personol a ddarperir gennych yn cael ei ddefnyddio i:

  • Nodi a chofnodi manylion Cynorthwywyr Personol sy'n chwilio am gyfleoedd gwaith yn Sir Gaerfyrddin
  • Helpu derbynwyr Taliadau Uniongyrchol gyda'r broses o recriwtio Cynorthwyydd Personol

Byddwn hefyd yn cysylltu â chi o bryd i'w gilydd i wirio bod eich manylion yn gyfredol ac i roi gwybod i chi am wybodaeth berthnasol mewn perthynas â datblygu'r gweithlu. 

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw'n ddiogel bob amser ac yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data. 

Nid ydym yn dibynnu ar ganiatâd i brosesu eich data personol - y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw bod angen i ni wneud hynny i gyflawni tasg er budd y cyhoedd, neu ar gyfer ein swyddogaethau swyddogol. Mae gan y gwasanaeth Cronfa Cynorthwywyr Personol sail gyfreithiol, sef Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.

2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?

Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Rhywedd neu bennu rhywedd
  • Rhif Cyfeirnod Unigryw
  • Rhif Ffôn
  • Cyfeiriad E-bost
  • Manylion Cyflogaeth ac Addysg
  • Delweddau/Ffotograffau
  • P'un a oes gennych dystysgrif Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Defnyddir y wybodaeth hon i lunio eich proffil Cynorthwyydd Personol.

3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

Nac ydyn, i ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu data personol yn uniongyrchol wrthych chi yn unig. 

4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein holl ddogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu eich gwybodaeth.  Caiff y data personol hwn ei gadw ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE lle mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn berthnasol.

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU.

5. Pwy all weld eich gwybodaeth?

Rydym yn rhannu eich data personol pan fydd angen i ni wneud hynny yn unig.  Pan fyddwn yn gwneud hyn, rydym yn darparu cyn lleied o wybodaeth ag sy'n angenrheidiol ym mhob achos i'r canlynol:

  • Rhennir fersiwn ddienw o'ch proffil Cynorthwyydd Personol gyda derbynwyr Taliadau Uniongyrchol i'w helpu i benderfynu pwy i recriwtio
  • Pan fyddant wedi penderfynu pwy i recriwtio, rhennir eich manylion cyswllt â derbynwyr Taliadau Uniongyrchol fel y gallant gysylltu â'r Cynorthwywyr Personol o'u dewis

Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle efallai y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:

  • Pan fo'r gyfraith yn mynnu ein bod yn rhoi'r wybodaeth
  • Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw

6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth

Byddwn yn cadw'ch gwybodaeth am hyd at 6 blynedd ar ôl i chi fod yn rhan o'r gwasanaeth. 

7. Eich hawliau o ran Diogelu Data

Mae gennych hawl i:

  • Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
  • Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
  • Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
  • Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:

  • Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
  • Dileu eich data personol
  • Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Hygludedd data

8. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk

Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyngor a Democratiaeth